Os oes gennych chi lysieuwyr yn dod i'ch parti, byddan nhw wrth eu bodd â'r rhain; am fyrbryd mwy sylweddol gellir eu gweini hefyd mewn poced pita cynnes gyda saws tsili a salad.

Mae iogwrt wedi’i wneud o laeth wedi’i eplesu gan ddefnyddio meithriniadau iogwrt. Mae’r ffyrdd y caiff ei ddefnyddio wedi datblygu dros y blynyddoedd ac erbyn hyn, caiff ei ddefnyddio mewn nifer o wahanol seigiau, yn cynnwys cyri, dipiau blasus, neu fel topin iachus ar rawnfwyd neu uwd i frecwast. Mae sawl blas iogwrt ar gael hefyd, o rai plaen neu fanila, i amrywiaeth eang o flasau ffrwythau.
Storiwch iogwrt yn yr oergell.
Gallwch rewi iogwrt am hyd at 3 mis.
I’w rewi: Gellir rhewi iogwrt a fromage frais. Cymysgwch iogwrt gyda ffrwythau goraeddfed, ychwanegwch ffon fach, ac arllwys y cymysgedd i fowldiau lolipop a’u rhewi i greu byrbryd iachus, adfywiol.
I’w ddadrewi: Gallwch fwyta iogwrt wedi’i rewi fel pwdin neu fyrbryd – does dim angen ei ddadrewi.
Mae gan iogwrt ddyddiad defnyddio erbyn, sy’n ymwneud â diogelwch. Dylid defnyddio neu rewi iogwrt sydd â dyddiad defnyddio erbyn cyn y dyddiad defnyddio erbyn. Os yw’r iogwrt wedi mynd heibio ei ddyddiad defnyddio erbyn, peidiwch â’i ddefnyddio na’i rewi chwaith. Erbyn hyn, mae rhai potiau iogwrt yn dod gyda dyddiad ar ei orau cyn sy’n ymwneud ag ansawdd. Os yw iogwrt wedi mynd heibio ei ddyddiad ar ei orau cyn, mae’n ddiogel i’w ddefnyddio neu ei rewi, ond efallai na fydd ar ei orau.
Gallwch ychwanegu iogwrt dros ben at smwddis. Gallwch ddefnyddio potiau iogwrt gwag i rewi bwyd dros ben.
Prynwch y swm iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio potyn mawr (neu 6/12 o rai bach) i gyd cyn y dyddiad defnyddio erbyn – os oes dyddiad defnyddio erbyn arno. Ystyriwch hefyd pa mor hir sydd gennych i ddefnyddio’r iogwrt ar ôl agor y potyn. Os nad ydych am ddefnyddio’r cwbl mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Os oes gennych chi lysieuwyr yn dod i'ch parti, byddan nhw wrth eu bodd â'r rhain; am fyrbryd mwy sylweddol gellir eu gweini hefyd mewn poced pita cynnes gyda saws tsili a salad.