Mae'r rysáit hon yn cynnwys stwffin bricyll cain gyda saws seidr melys ac mae'n ffordd wych o ddefnyddio bara dros ben.

Dŵr wedi’i garboneiddio yw diodydd pop, ac maent ar gael mewn amrywiaeth o wahanol flasau.
Dylid ail selio diodydd pop yn dynn a’u storio yn yr oergell neu’r cwpwrdd.
Gallwch rewi diodydd pop ond nid yn eu cynhwysydd gwreiddiol gan fod y rheiny’n gallu ffrwydro yn y rhewgell.
I’w rhewi: Rhewch ddiodydd pop mewn clawr ciwbiau rhew. Bydd yn colli ei swigod. Sylwer: Peidiwch â’u rhewi yn eu cynhwysydd gwreiddiol gan fod y rheiny’n gallu ffrwydro yn y rhewgell.
I’w ddadrewi: Rhowch yr hyn y mae ei angen arnoch mewn rysáit sy’n defnyddio diod pop yn syth yn eich rysáit o’r rhewgell (does dim angen iddo ddadmer), neu gallwch ei ddadmer yn yr oergell ar gyfer rysetiau teisennau.
Mae’n anhygoel, ond mae’n wir – gellir defnyddio cola dros ben fel cynhwysyn mewn rhai rysetiau teisennau a chig a dofednod hefyd!
Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn iddo fynd yn fflat.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Mae'r rysáit hon yn cynnwys stwffin bricyll cain gyda saws seidr melys ac mae'n ffordd wych o ddefnyddio bara dros ben.