Skip page header and navigation

1. Pasta

Yn gyntaf oll, ni fyddai unrhyw gwpwrdd bwyd yn gyflawn heb fag neu ddau o pasta. Dyma ddewis delfrydol pan fo awydd pryd rhad, hawdd o fwyd arnoch. Mae pasta’n gynhwysyn amryddawn; gellir ei ddefnyddio i wneud amrywiaeth eang o brydau, yn dibynnu ar y saws rydych am ei gael gydag ef (ac mae pasta heb glwten ar gael hefyd!).

Gallwch ddefnyddio pasta gyda saws Bolognese dros ben neu o’r rhewgell, neu gallech greu saws tomatos a llysiau sydyn fel ffordd o ddefnyddio llysiau ffres (gweler isod!) neu wneud macaroni caws cynhesol i ddefnyddio diwedd bloc o gaws cyn iddo fynd yn hen. Os ydych chi’n mwynhau seigiau fel tro-ffrio neu chow mein, bydd arnoch eisiau cadw nwdls yn y cwpwrdd hefyd, yn barod i’w defnyddio gyda llysiau ffres crensiog.

2. Reis

Mae reis yn gynhwysyn rhad a hwyliog y gallwch ei ddefnyddio i wneud prydau newydd gyda chyri, lobsgóws neu tsili dros ben, neu i wneud seigiau Indiaidd fel keema neu biryani. Mae reis risoto’n un da i’w gadw yn eich cwpwrdd hefyd, gan mai ychydig iawn o gynhwysion y mae risoto’n galw amdanynt, ac mae’n llawer llai o ymdrech nag a feddyliech chi (does dim angen ei gymysgu’n ddi-baid!). Dyma ffordd wych o ddefnyddio’r llysiau ffres sydd yn yr oergell hefyd, gan mai prin yw’r cynhwysion nad ydynt yn gweddu i risoto.

3. Tuniau o bob lliw a llun

Peidiwch anghofio pŵer bwydydd tun. Mae tomatos tun yn ffordd wych o greu saws pasta – jyst eu taro mewn padell gyda bron unrhyw fath o lysiau ffres sydd yn eich oergell, a dyna chi, pryd blasus o fwyd (cadwch diwb o biwrî tomato yn y cwpwrdd hefyd i gryfhau blas eich sawsiau).

Mae tomatos tun yn wych i’w cyfuno ag un eraill o hanfodion y cwpwrdd bwyd, hefyd – ffa coch tun – dyma sylfaen tsili blasus. Mae’n werth cadw pys melyn tun yn y cwpwrdd hefyd – mae’n wych ar gyfer ei gymysgu gyda thiwna, pasta a mayonnaise i wneud salad pasta blasus. A gan ein bod yn sôn am diwna, pysgod tun – tiwna, sardîns, mecryll, eog – mae’r rhain oll yn ffordd wych o ychwanegu protein at bryd o fwyd heb orfod gwario gormod.

4. Tatws

Mae’r daten deyrngar yn cynnig opsiynau diderfyn hefyd, felly mae cadw rhai yn y cwpwrdd bwyd yn ffordd hawdd o ychwanegu at bryd o fwyd mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gallwch wneud pryd arall gyda’ch cig rhost dros ben drwy ei weini gyda thaten drwy’i chroen a salad, neu gyfnewid reis am daten drwy’i chroen i’w bwyta gyda tsili dros ben. Torrwch eich tatws yn lletemau neu’n sglodion a’u rhostio’n barod i’w gweini gyda… wel, gydag unrhyw beth, a dweud y gwir! Torrwch hafnau dwfn ar hyd un ochr o’ch tatws a’u pobi i wneud tatws Hasselback blasus, neu gallech eu berwi a’u stwnshio i’w bwyta gyda selsig a phys o’r rhewgell. Neu gallech eu berwi a’u gweini’n gyfan gyda ffiled o’ch hoff bysgodyn (ffres neu o’r rhewgell) a ffa gwyrdd.

5. Winwns

Mae winwns yn ychwanegu blas at gymaint o wahanol seigiau, o sawsiau pasta i omledau, risotos a chyri. Cadwch rai yn eich cwpwrdd bob amser a bydd gennych ffordd iach o roi hwb i’ch coginio wrth law bob amser.

6. Perlysiau a sbeisys

Gan feddwl am ychwanegu blas, byddwch hefyd eisiau amrywiaeth o berlysiau a sbeisys yn eich cwpwrdd bwyd yn barod i daclo unrhyw saig. Oregano yw un o’r perlysiau mwyaf hyblyg – mae’n wych ar gyfer ei ychwanegu i sawsiau pasta ac i’w daenu ar pizza. Mae basil yn ddefnyddiol mewn amrywiaeth o seigiau cig a llysieuol Canoldirol hefyd. Os ydych chi’n un am goginio pysgod, mae dil a tharagon yn hanfodion i’r cwpwrdd bwyd.

Gallwch wneud cyri syml ond blasus iawn gyda nifer gymharol fach o gynhwysion os oes gennych chi ambell botyn o sbeis yn y cwpwrdd. Os ydych chi’n ffan o fwydydd Indiaidd, stociwch eich cwpwrdd gyda fflochiau tsili, coriander mâl, garam masala, cwmin, tyrmerig, powdr cyri a chodennau cardamom ac mae’n debyg y bydd gennych chi ddigon i greu rhywbeth blasus, waeth bynnag pa gynhwysion sydd gennych angen eu defnyddio. Mae paprica’n ffordd wych o roi ychydig o wres mewn cawl, ac mae sinamon yn dda mewn seigiau Morocaidd yn ogystal ag ar gyfer pobi.

7. Stoc

Yn olaf, ciwbiau, postiau a phast stoc: dyma ffordd wych o ychwanegu blas at bob math o wahanol seigiau. P’un ai gwneud grefi gyda chiwbiau stoc cig eidion, coginio reis mewn stoc cyw iâr neu lysiau llawn blas, neu wneud cawl gyda’ch holl lysiau dros ben fyddwch chi, mae’n werth chweil cadw amrywiaeth ohonynt yn eich stoc (maddeuwch inni!) yn barod i roi blas ar eich coginio a thrawsnewid hyd yn oed y prydau rhataf yn seigiau blasus. 

I grynhoi, pa bynnag gynhwysion ffres sydd angen eu bwyta acw, byddwch yn gallu eu trawsnewid yn bryd blasus gydag ychydig o help gan eich cwpwrdd bwyd a’n banc rysetiau defnyddiol. 

I grynhoi, pa bynnag gynhwysion ffres sydd angen eu bwyta acw, byddwch yn gallu eu trawsnewid yn bryd blasus gydag ychydig o help gan eich cwpwrdd bwyd.

Rhannu’r post blog hwn