Skip page header and navigation

I lawer o deuluoedd Mwslimaidd, mae mis sanctaidd Ramadan yn un o gyfnodau mwyaf arbennig y flwyddyn. Mae’n amser i fyfyrio, cysylltu ac aberthu, ac fe’i cynhelir drwy ymprydio o wawr hyd fachlud am 30 diwrnod. Mae teuluoedd yn aml yn ymgasglu i dorri’r ympryd gyda’r nos, gan rannu ym mhleser bwyd da. 

Mae absenoldeb bwyd a diod (a dŵr hyd yn oed) drwy’r dydd yn rhoi pwyslais ychwanegol ar bwysigrwydd bwyd – a hynny nid yn unig drwy’r weithred o eistedd i lawr gyda’i gilydd i rannu’r pryd suhoor cyn y wawr, neu’r pryd iftar i dorri’r ympryd ar ôl iddi fachlud. Mae mynd heb fwyd a dŵr am oriau lawer bob dydd yn atgoffa Mwslemiaid o’r rhai nad oes ganddynt ddigon i’w fwyta, ac maent yn gwneud gweithredoedd caredig ac elusennol ynghyd â’u hymprydio. 

Mae Ramadan yn adeg sy’n ein hatgoffa oll mor werthfawr yw bwyd, a dyna pam mae ein blog heddiw yn trafod sut gallwch chi a’ch teulu wneud i’ch bwyd fynd ymhellach ar yr adeg sanctaidd hon o’r flwyddyn. 

Gormod o fwyd? 

Wrth holi, roedd 62% o Fwslimiaid yn meddwl bod mwy nag 80% o aelwydydd Mwslimaidd yn paratoi gormod o fwyd o leiaf unwaith yn ystod Ramadan. Fodd bynnag, pan ofynnwyd am faint eu prydau iftar hwy, dywedodd 71% eu bod yr un maint ag arfer neu’n llai. 

Wrth drafod bwyd dros ben, dywedodd 58% o’r bobl a holwyd fod ganddynt fwyd dros ben yn aml yn ystod Ramadan, ac o blith y rhai â bwyd dros ben, dywed 96% eu bod yn aml yn eu cadw a’u bwyta’r diwrnod wedyn. Er bod hyn yn newyddion gwych, dywed 66% hefyd eu bod yn aml yn cadw bwyd dros ben gyda’r bwriad o’u defnyddio, ond cael ei daflu oedd y bwyd yn y pen draw. 

Os oes gennych chi bob bwriad da i beidio gwastraffu bwyd, rydych chi mewn cwmpeini da. Cytunodd 98% o bobl Mwslimaidd a arolygwyd eu bod am i’w plant weld gwastraff bwyd fel mater pwysig. Ac mae’n sicr yn bwysig! O ran symbyliad, mae 95% o’r bobl a holwyd yn ein harolwg yn credu y bydd gwneud mwy ynghylch materion gwastraff bwyd yn plesio Allah*. 

Manteisio i’r eithaf ar fwyd dros ben 

Os ydych chi newydd orffen eich pryd iftar a gweld bod mwy o fwyd ar ôl nag y gallwch chi a’ch teulu ei fwyta, mae llawer o bethau gwych y gallwch ei wneud â’r hyn sydd dros ben. 

Defnyddio bwyd dros ben i wneud rhywbeth newydd

Yn gyntaf, beth am wneud rhywbeth newydd o’ch bwyd dros ben a’i fwynhau fel pryd iftar y diwrnod wedyn – efallai fel cwrs cyntaf neu saig ar y naill ochr? Gellir ychwanegu cig a llysiau dros ben at gyri, ffriterau, neu seigiau un ddysgl fel tajîn. Ac, er efallai nad yw cyri sbeislyd yn ddelfrydol ar gyfer suhoor fore drannoeth, gallech gymysgu eich llysiau a bara fflat dros ben gydag wyau i wneud shakshuka blasus fel trît ar y penwythnos. 

Rhannu gydag eraill

Eich ail opsiwn yw rhannu’r bwyd sydd yn ormod i chi gyda’ch ffrindiau, teulu neu gymuned leol. Beth am ei gynnig i’ch cymdogion fel gweithred garedig, mynd ag ef i loches i’r digartref, neu ddefnyddio un o’r nifer gynyddol o apiau rhannu bwyd i helpu eich bwyd dieisiau gyrraedd rhywun cyfagos sydd ei angen? 

Rhewi’r bwyd dros ben ar gyfer rywdro eto

Wrth gwrs, gallwch hefyd ddewis rhewi bwyd dros ben i’w fwynhau rywdro eto, boed hynny’n nes ymlaen yn ystod mis Ramadan, neu i wneud prydau hawdd o fwyd ar ôl Eid. Prin iawn yw’r pethau na allwch eu rhewi

Gellir rhewi seigiau wedi’u paratoi’n llawn fesul dogn, o koftas cig oen sbeislyd i gyri (defnyddiwch ein cyfrifydd dognau i gyfrifo’r maint delfrydol), a gellir rhewi llysiau a chig rhost mewn bagiau rhewgell ailddefnyddiadwy i’w defnyddio mewn seigiau eraill yn y dyfodol. Gellir rhewi bara fflat hefyd, yn barod i’w cael i ginio unwaith bydd Ramadan wedi dod i ben, neu i ychwanegu at swper ryw noson arall. 

Os gwnaethoch chi goginio gormod o reis – mae’n hawdd gwneud! – gellir rhewi hwnnw hefyd, ond cofiwch mai unwaith yn unig y gellir ei aildwymo. Dilynwch ein canllawiau ar gyfer rhewi reis i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud hynny’n ddiogel. 

A phan ddaw Eid… 

Wrth i’r mis ddirwyn i ben, mae bwyd yn ffocws unwaith eto gyda dathliadau Eid. Fe welwch wledd o tips ar gyfer defnyddio bwyd dros ben o’ch gwledd Eid yn ein blog ar wneud i’ch bwyd Eid fynd ymhellach

*Ymchwil nas cyhoeddwyd a gynhaliwyd gan WRAP yn 2022 ar effeithiolrwydd ymyraethau a dreialwyd i leihau gwastraff bwyd. 

Rhannu’r post blog hwn