Skip page header and navigation

Newyddion cadarnhaol am ein bwyd: byddwch yn dechrau gweld archfarchnadoedd yn newid i ddyddiadau ‘Ar ei orau cyn’ ar gynnyrch llaeth, yn cynnwys llaeth, gan ddilyn arweiniad Arla (Cravendale a BOB), Morrisons, Aldi a Sainsbury’s. 

Ond pam? Mae newid i ddyddiadau ‘Ar ei orau cyn’ yn fonws go iawn i ni oherwydd mae’n golygu y gallwn fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio ein crebwyll i benderfynu a yw llaeth yn dal yn iawn i’w ddefnyddio ar ôl i’r dyddiad ddweud ei fod yn iawn, yn hytrach nag arllwys llaeth sy’n hollol iawn i lawr y draen. Mae cadw llaeth yn yr oergell a gwneud yn siŵr bod yr oergell yn cael ei chadw ar 5°C neu oerach yn helpu i’w gadw’n ffres yn hirach. 

Mae’n wych i ni oll, oherwydd byddwn yn cael mwy o werth o’r llaeth a brynwn, gan helpu i wneud i’n harian gwerthfawr fynd ychydig ymhellach, ac mae’n ffordd syml o warchod ein planed, hefyd.

 

Wyddoch chi?

  • Yng nghartrefi’r Deyrnas Unedig, gellid bod wedi bwyta 70% o’r bwyd a gaiff ei daflu – mae hynny’n 4.5m tunnell.
  • Llaeth yw’r trydydd o blith y prif fwydydd a gaiff ei daflu yn y Deyrnas Unedig.

Yn y blog hwn, ein nod yw deall mwy ar y newid diweddar hwn i ddyddiadau ar laeth a rhannu sut byddwch chi, eich poced, a’r blaned yn elwa.  

Yn gyntaf, ychydig mwy am y newid hwn i’n labeli llaeth

Mae WRAP, ein rhiant-sefydliad, yn gweithio gyda holl fanwerthwyr a chynhyrchwyr ac yn eu hannog i adolygu a oes angen dyddiad ‘Defnyddio erbyn’ ar eu cynnyrch llaeth ac, os yw’n ddiogel gwneud hynny, ystyried newid i ddyddiad ‘Ar ei orau cyn’ i ehangu’r cyfnod amser sydd gennym i ddefnyddio’r llaeth yn ein cartrefi. Mae dyddiadau ‘Ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ‘ansawdd’ bwyd. 

Gan fod holl laeth yn cael ei brosesu’n wahanol, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan gynhyrchwyr a manwerthwyr ar ôl cynnal profion, asesiadau risg a siarad ag awdurdod cymwys perthnasol y diwydiant. 

‘Busnesau bwyd sy’n gyfrifol am benderfynu a yw’n addas defnyddio dyddiad ‘Defnyddio cyn’ neu ddyddiad ‘Ar ei orau cyn’ ar eu cynnyrch. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn glir bod rhaid i fusnesau sicrhau bod y math cywir o label dyddiad yn cael ei roi ar nwyddau i helpu’r cyhoedd wneud dewisiadau hysbys a chadw’n ddiogel.’ Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae’r cynhyrchwyr a manwerthwyr sydd eisoes wedi gwneud y newid i ychwanegu dyddiad ‘Ar ei orau cyn’ ar laeth yn hyderus bod eu llaeth yn ddiogel i’w ddefnyddio am ychydig ddyddiau ar ôl y dyddiad hwnnw, os caiff y llaeth ei storio yn y lle cywir; oergell wedi’i gosod ar y tymheredd cywir  o lai na 5°C.  

Pam mae hyn yn bwysig? 

O newid i ddyddiad ‘Ar ei orau cyn’ ar gyfer llaeth, mae’n rhoi sicrwydd i ni fod defnyddio ein crebwyll ein hunain wrth ddefnyddio ein llaeth yn beth da i’w wneud. Mae’r newid hwn yn rhoi ychydig ddyddiau’n rhagor i ni ddefnyddio neu rewi llaeth sydd heb fynd yn hen ar gyfer rywdro eto… sy’n golygu y gallwn arbed llawer o laeth, ac ychydig o arian gwerthfawr, rhag mynd i lawr y draen.

‘Deallwn mai prif nod y newidiadau ar labeli llaeth yw lleihau faint gaiff ei daflu bob blwyddyn yn ddiangen. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn croesawu ymdrechion i leihau gwastraff bwyd a chamau gan fusnesau bwyd i herio arferion hirsefydlog mewn meysydd nad yw’n cyfaddawdu ar ddiogelwch bwyd ac yn cadw o fewn y gyfraith.’ Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Bydd llaeth yn mynd yn sur, yn edrych yn lympiog, ac yn arogli’n ddrwg cyn i facteria niweidiol ddatblygu. Felly, mae defnyddio ein crebwyll yn golygu y byddwn yn rhoi’r gorau i ddefnyddio llaeth ar y cam sur, lympiog, drewllyd hwn, a chyn iddo fod yn anniogel i’w fwyta.  

‘Bydd llaeth yn blasu, yn edrych, ac yn arogli’n ddrwg cyn iddo fod yn ddrwg i chi’. Emily, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ar Good Morning Britain (ITV), Mehefin 2023 

Ac os ydych chi’n dal i deimlo’n anghyffyrddus neu’n ansicr am ddefnyddio eich synhwyrau i benderfynu, rydym yn eich cynghori i gadw at y dyddiad ‘Ar ei orau cyn’ y mae’r cynhyrchwr wedi’i roi ar y pecyn sy’n dangos tan ba bryd mae’r bwyd ar ei orau.

Mae’n werth cymryd munud neu ddau i wrando ar y sgwrs fer hon rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd a chyflwynwyr Good Morning Britain am newidiadau i ddyddiadau llaeth.

Fodd bynnag – ac mae hyn yn bwysig – y canllawiau ynghylch labeli dyddiad yw na ddylech fwyta na defnyddio unrhyw fwyd ar ôl i ddyddiad ‘Defnyddio erbyn’ fynd heibio. Felly, os gwelwch ddyddiad ‘Defnyddio erbyn’ ar laeth o hyd, yna rhaid ichi ddilyn y cyfarwyddyd hwn a pheidio â defnyddio’r llaeth ar ôl y diwrnod hwn. Mae’r cynhyrchwyr a manwerthwyr sydd wedi newid i ddyddiad ‘Ar ei orau cyn’ ar laeth wedi cwblhau adolygiad diogelwch trwyadl cyn gwneud y penderfyniad hwn.

Bod yn ddoethach gyda’n llaeth

Dydi pethau ddim yn mynd fel y bwriadwn bob amser, felly os ydych chi’n gwybod na fyddwch yn defnyddio eich llaeth i gyd cyn iddo fynd yn hen, beth am ei roi yn y rhewgell? 

Tip gwych: Bydd rhannu’r llaeth yn ddognau llai yn eich helpu i ddadmer dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch.

Os oes dyddiad ‘Ar ei orau cyn’ ar eich llaeth, yna mae’n well ei rewi jyst cyn y dyddiad hwn i gael y ffresni gorau, a gellir ei rewi jyst ar ôl y dyddiad hwn hefyd, gan ddefnyddio eich crebwyll ar ei ansawdd.

Ar gyfer llaeth gyda dyddiadau ‘Defnyddio erbyn’, gallwch ei rewi hyd at y dyddiad ar y pecyn a’i ddadmer yn ôl eich angen. Peidiwch â defnyddio na rhewi eich llaeth ar ôl y dyddiad hwn.

  • Cartonau llaeth llai – gallwch rewi a dadmer cartonau llai o laeth yn hawdd – jyst rhowch nhw’n syth yn y rhewgell. Os yw’r carton wedi’i agor yn barod, sicrhewch fod y caead wedi’i gau’n dynn neu ystyriwch ei roi mewn cynhwysydd arall, gan ychwanegu label yn nodi ei gynnwys a’r dyddiad rhewi.
  • Cartonau llaeth mwy – gallwch rewi’r rhain yn eu cartonau neu boteli plastig, fodd bynnag, bydd yn dadmer yn gyflymach os gwagiwch y carton i gwpl o gynwysyddion llai cyn ichi rewi’r llaeth. Mae hyn yn golygu eich bod yn dadmer dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Fel uchod, rhowch label arno sy’n dweud ‘llaeth’ a’r dyddiad y cafodd ei roi yn y rhewgell.
  • Diferion dros ben – gallwch achub pob diferyn o’ch llaeth drwy ychwanegu’r diferion olaf i dwbyn ciwbiau rhew a’i gadw yn y rhewgell. Y cwbl y mae angen ichi ei wneud wedyn yw rhoi ciwb rhew llaeth yn eich disgled yn ôl y galw!    
  • Poteli llaeth gwydr – ni allwch rewi llaeth mewn poteli gwydr gan fod llaeth yn chwyddo wrth rewi, sy’n torri’r gwydr. Yn hytrach, dilynwch yr un canllawiau â’r rhai ar gyfer ‘cartonau llaeth mwy’.

Canllawiau bwyd defnyddiol 

Ewch i bori ein canllawiau bwyd i archwilio sut i ofalu am eich bwyd gartref, yn cynnwys y lleoedd gorau i storio eich bwyd a defnyddio bwyd dros ben.


Mwy i bori drwyddo


Cwestiynau Cyffredin

Sut allwch chi wirio ffresni bwyd os na allwch ei agor i’w arogli, ei flasu neu edrych arno? 

Bydd dyddiad ar becynnau holl gynnyrch llaeth o hyd. Bydd hwn naill ai yn ddyddiad ‘Ar ei orau cyn’ sy’n amcan o’r ffresni gorau neu’n ddyddiad ‘Defnyddio erbyn’ sy’n gadael i ni wybod fod y bwyd hwn yn ddiogel i’w fwyta tan y dyddiad hwnnw.

Yn gyffredinol, bydd bwyd gyda dyddiad ‘Ar ei orau cyn’ yn iawn i’w fwyta am ychydig ddyddiau ar ôl y dyddiad hwn os yw wedi cael ei storio’n gywir, mewn oergell ar dymheredd o 5°C neu lai.

Bydd bwyd gyda dyddiad ‘Defnyddio erbyn’ yn ddiogel i’w ddefnyddio hyd y dyddiad hwnnw, ac fel gyda bwydydd ‘Ar ei orau cyn’, rhaid ei storio’n gywir mewn oergell sydd wedi’i gosod i’r tymheredd cywir.

Gellir rhewi’r rhan fwyaf o gynnyrch llaeth. Darllenwch y cyfarwyddyd ar y labeli a gallwch ddysgu mwy yn ein canllawiau bwyd ar wefan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff.

A fydd archfarchnadoedd yn newid eu prosesau, e.e. cylchdroi stoc, neu’n gwneud i ffwrdd â’r cyfle i brynu bwydydd ar ddisgownt? 

Ni fydd prosesau’r siopau yn newid. Byddant yn dal i weithio yn ôl y dyddiad ar y bwydydd ac mae llawer o siopau’n parhau i gynnig nwyddau ar ddisgownt. Y fantais o gael ‘Ar ei orau cyn’ ar rai nwyddau cynnyrch llaeth yw y bydd gennych chi ychydig ddyddiau’n rhagor i’w ddefnyddio nawr. 

Os ydych yn ansicr a fydd yr eitem yn cadw’n ffres yn ddigon hir i chi ei fwyta yna gallwch fynd yn ôl y dyddiad fel y buoch yn gwneud hyd yma. Mae ‘Ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd, ac mae’r dyddiad hwn yn nodi pa bryd mae’r bwyd ar ei orau o ran ffresni. Gallwch fwyta’r bwyd hwn ychydig ddyddiau ar ôl y dyddiad hwn. Mae ‘Defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch y bwyd a gallwch fwyta’r bwyd hyd y dyddiad hwn ond nid ar ôl y dyddiad hwn. 

Gallwch hefyd rewi’r rhan fwyaf o nwyddau cynnyrch llaeth – gallwch weld manylion hyn ar y pecyn ac yn ein canllawiau bwyd.

Sut all pobl gyda COVID hir wybod a yw llaeth yn iawn i’w ddefnyddio? Mae llawer o bobl na allant arogli neu flasu’r bwyd.

Os na allwch wirio ffresni’r bwyd eich hunain, yna awgrymwn ichi ddal ati i gadw at y dyddiad y mae’r cynhyrchwr wedi’i roi ar y pecyn sy’n nodi tan ba bryd mae’r bwyd hwnnw ar ei orau. Bydd dyddiad ar becynnau holl gynnyrch llaeth bob amser. 

Onid yw’n anghyfreithlon tynnu dyddiadau oddi ar gynnyrch?

Bydd dyddiad ar gynnyrch llaeth bob amser, ac mae’n anghyfreithlon eu tynnu oddi arnynt yn gyfan gwbl. Mae’r newidiadau diweddar yn ymwneud â newid dyddiadau ‘Defnyddio erbyn’ i ddyddiadau ‘Ar ei orau cyn’ pan fo’n ddiogel gwneud hynny. Mae rhai mathau o gynnyrch y caniateir eu gwerthu heb ddyddiadau arnynt, er enghraifft, ffrwythau a llysiau ffres heb eu torri.

Rhannu’r post blog hwn