Skip page header and navigation

Wrth i’r hydref fwrw ei ffrwyth, mae mis Hydref yn llawn gwrdiau godidog a dechrau tymor y gwreiddlysiau – a’r cynhaeaf afalau, wrth gwrs! Dyma dymor bwydydd cysurlon, cynhesol, a gyda digonedd o ffrwythau a llysiau ffres ar eu ffordd i’n ceginau o’r perllannau a’r caeau’r mis yma, chewch chi ddim trafferth llenwi eich cynllun prydau bwyd mis Hydref gan ddefnyddio cynhwysion ffres lleol nad ydynt wedi peri niwed i’r blaned drwy gael eu hedfan hanner ffordd rownd y byd. Dyma sy’n dda i’w fwyta ym mis Hydref…

Ffrwythau a llysiau i’w mwynhau ym mis Hydref

Yn ôl canllaw’r Vegetarian Society, gallwn fwynhau’r ffrwythau a llysiau hyn yn ffres o’r cae yn ystod mis Hydref:

Planhigyn wy, Afalau, Betys, Mwyar Duon, Brocoli, Sbrowts, Pwmpen Cnau Menyn, Moron, Blodfresych, Seleriac, Seleri, Cnau Castan, Sicori, Tsilis, Courgette, Ciwcymbr, Eirin Ysgaw, Cêl, Cennin, Letys, Maro, Winwns, Pannas, Gellyg, Pys, Tatws, Pwmpen, Cwins, Radis, Bresych Coch, Berwr, Ffa Dringo, Salsiffi, Bresych Crych, Sbigoglys, Bresych Deiliog, Shibwns, Pwmpen yr Haf, Swêj, India-corn, Bresych Hisbi, Betys Arian, Tomatos, Maip, Berwr y Dŵr, Madarch y Coed, Pwmpen y Gaeaf, Bresych Gwyn.

Afalau 

Os galwch heibio unrhyw berllan yn gynnar ym mis Hydref, mae’n debygol y gwelwch goed yn gwegian dan bwysau ffrwythau aeddfed. Nawr yw’r amser i fwynhau afalau newydd eu casglu, ac mae ffyrdd di-rif y gallwch eu defnyddio. Er gwaethaf hynny, caiff 800,000 o afalau cyfan eu taflu i’r bin bob dydd yn y Deyrnas Unedig – rhywbeth sy’n hawdd ei osgoi drwy fwynhau rysetiau blasus. Gallwch eu defnyddio mewn seigiau sawrus hefyd, fel y bastai homity hyfryd hon.

Pwmpen cnau menyn

Gellir defnyddio’r llysieuyn hwn mewn nifer ryfeddol o wahanol ffyrdd, ac mae pwmpen cnau menyn yn drît go iawn yr adeg hon o’r flwyddyn. Gallwch ei sleisio yn ei hanner, ei lenwi â chaws ffeta a’i rostio, neu ei dorri’n giwbiau a’i ychwanegu at eich holl ffefrynnau, cyri, stiw neu gawl. A dyma un o fwydydd cysurlon gorau’r hydref: briwgig pwmpen cnau menyn. Cofiwch hefyd y gallwch gyfnewid pwmpen cnau menyn am bwmpen y gaeaf neu bwmpen gyffredin os mai dyna sydd gennych wrth law.

Swêj

P’un a fyddwch yn ei ferwi, ei stemio, ei stwnshio neu ei rostio, mae nifer ryfeddol o ffyrdd y gallwch gynnwys swêj yn eich coginio’r mis yma. Gallwch ei ddefnyddio yn ein pasteiod cinio rhost dros ben neu wneud pastai hagis blasus, neu’n syml ei ddefnyddio fel opsiwn iachach yn hytrach na defnyddio tatws mewn unrhyw rysáit sy’n galw amdano. Gallwch ei stwnshio ar bastai’r bwthyn neu bastai’r bugail, ei dorri’n fân a’i roi mewn caserol, stiw neu gawl, neu ei rostio ar ffurf lletemau i gyd-fynd â phryd o fwyd.

Pwmpen 

Mae Calan Gaeaf ar y gorwel o’r diwedd, ac mae hynny’n golygu mai dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae’n hawdd cael gafael ar bwmpen. Maen nhw’n llawer o hwyl i’w cerfio, ond wyddoch chi y gallwch eu bwyta hefyd? Mae pwmpenni’r un mor flasus â phwmpenni cnau menyn ac aelodau eraill o deulu estynedig y bwmpen, felly trist yw gweld yr ymchwil gan yr elusen cynaliadwyedd Hubbub, sy’n dangos fod 12.8 miliwn o bwmpenni a gaiff eu prynu fel addurniadau Calan Gaeaf yn debygol o beidio â chael eu bwyta. Mae cymaint o ffyrdd blasus o ddefnyddio eich pwmpenni, yn cynnwys pei pwmpen Americanaidd i gawl pwmpen sbeislyd, myffins granola a phwmpen sbeislyd, neu risoto pwmpen, caws glas ac afal, fyddwch chi byth eisiau eu taflu i’r bin ar ôl Calan Gaeaf eto!

Beth am ddarllen mwy o tips a phori ein banc rysetiau am ragor o awgrymiadau blasus ar gyfer eich cynllun prydau bwyd mis Hydref? Cofiwch alw heibio eto’r mis nesaf i weld beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Tachwedd! 

 

Rhannu’r post blog hwn