Chwilio Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Cynllunio: Archwiliwch sut i greu cynlluniau prydau bwyd wythnosol a fydd yn arbed amser ac arian ichi yn y pen draw ac yn eich helpu i gadw at eich cyllideb bwyd drwy ei gwneud yn haws ichi brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch ac osgoi’r drafferth o orfod meddwl beth i’w goginio amser bwyd.
- Type: Post blog
Beth petawn ni’n dweud wrthych fod un peth syml y gallwch chi ei wneud pan rydych yn yr archfarchnad neu’n gwneud eich siopa ar lein a allai helpu arbed degau o filoedd o dunelli o fwyd bob blwyddyn?
Pan fyddwch yn taflu rhywbeth i’r bin, nid bwyd yn unig sy’n mynd yn wastraff, ond yr holl adnoddau gwerthfawr a gafodd eu defnyddio i’w wneud. Ac mae gan bob un effaith ar newid hinsawdd.
Efallai yn fwy syfrdanol fyth, daw 70% o’r holl fwyd a gaiff ei daflu yn Deyrnas Unedig o’n cartrefi, sy’n golygu bod gan bob un ohonom ran hollbwysig i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.