Skip page header and navigation

Wel, mae yna un peth syml, ac mae’n hawdd iawn i’w wneud: prynu eich llysiau a’ch ffrwythau’n rhydd! Felly pam bod prynu’n rhydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth, a sut mae gweithio allan faint sydd angen i chi ei brynu i wneud siŵr eich bod yn ei ddefnyddio? Dewch i ni edrych yn fanylach.

Pam prynu’n rhydd? 

Mae ein hymchwil yn dangos petai bob afal, banana a thaten yn cael ei gwerthu’n rhydd yn lle mewn bagiau fesul pwysau, gallem arbed 60,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn. Ac mae hynny cyn hyd yn oed meddwl am yr holl fathau eraill o lysiau a ffrwythau sydd ar gael i’w prynu’n rhydd!

Mae’r rheswm yn syml: pan rydych yn prynu’n rhydd yn hytrach na phrynu bag mawr o lysiau neu ffrwythau, mae’n llawer haws prynu yn nes at eich anghenion. Gallwch brynu’r hyn rydych yn gwybod sydd ei angen arnoch, fel nad ydych yn prynu llawer gormod na fyddwch yn llwyddo i’w fwyta cyn iddo ddifetha.

 

Y peth da yw bod mantais ychwanegol yn perthyn i brynu’n rhydd, sef lleihau gwastraff plastig, felly gwell fyth!

Awgrymiadau am brynu’n rhydd a defnyddio beth rydych yn ei brynu

Nawr ein bod wedi deall pam mai prynu’n rhydd yw’r ffordd ymlaen, sut allwn ni newid yr arfer o ‘gydio mewn bag’ a phrynu yn union beth rydych ei angen?

Mae prynu dim ond yr hyn rydych ei angen ac wedyn bwyta beth rydych yn ei brynu yn hawdd gydag ychydig o arferion newydd, felly dyma rai syniadau syml i chi roi cynnig arnynt i arbed eich bwyd a gwneud yn siŵr y caiff ei fwyta.

 

  • Gwiriwch eich oergell, rhewgell a chypyrddau cyn gwneud eich siopa: beth sydd gennych eisoes sydd angen ei ddefnyddio? Efallai bod gennych ambell i foronen ar ôl a’ch bod ddim ond angen un neu ddwy arall ar gyfer y rysáit sydd gennych mewn golwg, neu eich bod wedi anghofio bod gennych ambell i daten ar ôl ers eich cinio rhost ddydd Sul.
  • Ysgrifennwch gynllun prydau bwyd hyblyg ar gyfer yr wythnos:gan ystyried beth sydd gennych yn barod, cymerwch ychydig funudau i ysgrifennu cynllun prydau bwyd hyblyg ar gyfer yr wythnos sydd i ddod. Mae llawer mwy o gyngor am hyn yn ein postiad cynllunio prydau.
  • Gwnewch restr o beth fydd ei angen: nawr eich bod yn gwybod beth rydych yn bwriadu ei goginio, byddwch yn gwybod pa gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Gallwch nawr greu rhestr o’r cyfanswm dognau o lysiau a ffrwythau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer yr wythnos gyda’n cyfrifydd dognau bwyd cyfleus.
  • Cadwch at y rhestr: pan rydych yn yr archfarchnad neu’n gwneud eich siopa ar-lein, ticiwch y pethau ar eich rhestr a phrynwch dim ond yr union faint sydd ei angen arnoch o’r adran llysiau a ffrwythau rhydd. Cofiwch fynd â bagiau ailddefnyddio neu gynwysyddion i ddal eich llysiau a ffrwythau rhydd os ydych yn cychwyn tua’r siop!
  • Storiwch ef yn y lle cywir: pan ddewch a’ch llysiau a ffrwythau rhydd gartref, gallwch wneud yn siŵr ei fod yn para mor hir â phosibl trwy ei storio yn y lle cywir – sef y rhewgell i’r rhan fwyaf o lysiau a ffrwythau (dim ond bananas, pinafalau cyfan a nionod a ddylai gael eu cadw ar dymheredd yr ystafell a deud y gwir). Efallai y cewch eich synnu faint o fwydydd yr ydych wedi bod yn eu storio yn y lle anghywir!

Daliwch ati i ddilyn yr awgrymiadau hyn a chyn pen dim byddant yn rhan arferol o’ch trefn fwyd wythnosol. Cewch bleser gweld faint o fwyd y gallwch ei arbed!

Un peth arall i’w gadw mewn cof: trwy helpu osgoi gwastraff bwyd, mae prynu eich llysiau a ffrwythau yn rhydd yn well i’r blaned – ond mae hefyd yn well i chi a’ch teulu! Nid yn unig y mae llai o wastraff bwyd yn golygu bod mwy o arian wedi’i arbed (arian y gallwch wedyn ei wario ar bethau eraill), ond mae hefyd yn rhoi mwy o ryddid i chi. Yn hytrach na chael unrhyw gynnyrch mewn bag wedi’i ddewis yn barod, cewch gyfle i ddewis a dethol y llysiau a ffrwythau rydych eu heisiau, gan roi mwy o reolaeth i chi dros swm, maint ac amrywiaeth. Beth gewch chi’n well?

 

Rhannu’r post blog hwn