Skip page header and navigation

Gweithredwch heddiw!

Gweithredwch heddiw!

Diolch o galon ichi gan bob un ohonom – am wneud rhywbeth sy’n bwysig iawn. Gwerthfawrogi eich bwyd y tu hwnt i’w bris.

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau sydd eisoes wedi’u defnyddio i ddod â’n bwyd at ein byrddau – tir, dŵr, amser ac egni ffermwyr, cludiant – a sicrhau bod pob tamaid yn cael ei fwyta, nid ei daflu. 

Ffermwr yn dal bresych a phannas dan wenu

Arbed bwyd a churo’r bin

Gadewch inni fod yn realistig: weithiau rydym mor brysur nes bod meddwl am sut i arbed bwyd gartref yn disgyn i waelod ein rhestr blaenoriaethau. Yn hytrach na cheisio gweddnewid eich arferion bwyd dros nos, dewch inni weithredu gyda’n gilydd fesul tamaid. 

Mae newidiadau syml wir yn troi’n newid mawr os gwnawn ni oll newid bach heddiw, a pharhau i weithredu arno bob dydd.

60%

o wastraff bwyd yn dod o’n cartrefi yn y Deyrnas Unedig

Dechrau ar eich siwrne arbed bwyd

Fe wyddom oll mor brysur gall bywyd fod, felly dewiswch un hac bwyd syml i roi cynnig arni heddiw – boed hynny’n golygu cynllunio mwy o brydau bwyd er mwyn ichi wybod beth i’w brynu wrth siopa ar gyfer yr wythnos, mesur eich reis neu basta cyn coginio, taro bwyd dros ben yn yr oergell neu’r rhewgell ar gyfer pryd o fwyd rywdro eto, neu wirio bod eich oergell wedi’i gosod ar dymheredd digon oer.

Does dim angen iddo fod yn unrhyw beth cymhleth, fel mynd yn gwbl ‘ddiwastraff’ dros nos, gwneud eich prydau bwyd o grafion ffrwythau a llysiau, neu dyfu eich llysiau eich hun (er, os ydych chi’n mwynhau hynny, mae hynny’n wych!). Mae un newid bach yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol os bydd digon ohonom yn cymryd y cam hwnnw.

Daliwch ati gyda’r cam gweithredu a ddewisoch bob wythnos nes bydd yn ail natur ac yn rhan o’ch arferion bwyd wythnosol. Yna, rhowch gynnig ar rywbeth arall ymhen ychydig wythnosau, a byddwch yn synnu faint o fwyd rydych yn ei arbed rhag mynd i’r bin, a faint o £ yn fwy fydd gennych yn eich poced.

Adnoddau ar gyfer arweinwyr grwpiau cymunedol

Gallwn gyflawni cymaint mwy gyda chi’n gweithio law yn llaw â ni. Gyda’ch help chi, gallwn gyrraedd mwy o bobl yn eu cymunedau ac ysbrydoli gweithredu mewn cartrefi ledled y wlad.

Cofrestrwch gyda’n llyfrgell adnoddau a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau y mae croeso ichi eu defnyddio gyda’ch grwpiau: yn cynnwys adnoddau Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff wedi’u brandio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, negeseuon a ffeithiau profedig ynghylch gwastraff bwyd, a deunyddiau y gellir eu hargraffu.

Mae Wythnos Taclo Gwastraff Bwyd ym mis Mawrth yn gyfle arall gwych i gymryd rhan a’n helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd taclo’r broblem gwastraff bwyd, gyda’n gilydd.

Rhannu eich ffyrdd o arbed bwyd

Rhannwch y pethau gwych rydych chi’n eu gwneud i gadw bwyd allan o’r bin ac i helpu i amddiffyn ein planed fendigedig. Dywedwch wrth eich teulu, ffrindiau, cydweithwyr, cyd-fyfyrwyr, cymdogion, ffrindiau Geidiaid a Sgowtio… dywedwch wrth bawb y gallwch.

Dewch inni ysbrydoli ein gilydd, dathlu’r buddugoliaethau gyda’n gilydd a chadw’r momentwm i fynd.

Tagiwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn eich postiadau i adael i ni wybod i ni beth fyddwch chi’n ei wneud; rydyn ni bob amser yn hapus i rannu a chefnogi mentrau arbed bwyd.

Dod o hyd i gefnogaeth yn ein cymuned arbed bwyd

Cymerwch ran yn ein cymuned ddigidol a dewch o hyd i bobl o’r un anian sy’n chwarae eu rhan wrth fanteisio i’r eithaf ar fwyd ac arbed arian. Rydym yn rhannu llawer o syniadau ymarferol, haciau bwyd, ryseitiau bwyd dros ben a llawer mwy ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan hon.

Dilynwch ni ac ymunwch yn y sgwrs heddiw! Rhannwch eich awgrymiadau arbed bwyd gwych gyda ni hefyd – tagiwch ein cyfrifon cymdeithasol a defnyddiwch #HoffiBwydCasauGwastraff.

Instagram: @lfhw_uk | Twitter: @lfhw_uk | Facebook

Rysáit Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd: ymchwil, arbenigedd a hoffter am fwyd i'ch helpu i arbed bwyd o'r bin.

Teulu Du: mam, merch a dau fab, yn coginio pryd o fwyd gyda’i gilydd yn y gegin, yn chwerthin ac yn gwenu

Atebion i’r cwestiynau a dderbyniwn yn aml am wastraff bwyd, a ffyrdd o gysylltu â thîm Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff.

Dau ddyn gwyn yn torri tsilis gyda’i gilydd yn y gegin: un yn hŷn a’i wallt wedi britho, un yn iau, a barf ganddo.

Pan fyddwch yn taflu rhywbeth i’r bin, nid bwyd yn unig sy’n mynd yn wastraff, ond yr holl adnoddau gwerthfawr a gafodd eu defnyddio i’w wneud. Ac mae gan bob un effaith ar newid hinsawdd.

Efallai yn fwy syfrdanol fyth, daw 70% o’r holl fwyd a gaiff ei daflu yn Deyrnas Unedig o’n cartrefi, sy’n golygu bod gan bob un ohonom ran hollbwysig i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Pridd mewn dysgl wen sy’n cael ei dal yn nwylo rhywun