Skip page header and navigation

Dail salad

Rhewi? No
Tymor O’r gwanwyn hyd y gaeaf
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell o fitaminau a dŵr
a pile of different salad leaves

Mae amrywiaeth eang o ddail salad gwahanol ar gael yn hawdd yn archfarchnadoedd y Deyrnas Unedig, e.e. berwr y dŵr, berwr, dail betys. Gallwch nawr eu cael mewn dail o wahanol siapau, meintiau a lliwiau ac maen nhw’n ychwanegiad ardderchog i gyd-fynd â llawer o brydau bwyd. Maen nhw’n eithaf hawdd eu tyfu eich hunan hefyd, felly beth am roi cynnig arni a lleihau eich ôl-troed bwyd (eich effaith ar y blaned)?

Sut i'w storio

Sut i storio dail salad ffres

Storiwch ddail salad o unrhyw fath yn yr oergell yn eu pecynnau gwreiddiol, neu fel arall, mewn bag plastig wedi’i glymu’n llac.

Ni allwch rewi dail salad

Nid yw bwydydd gyda chynnwys dŵr uchel, fel dail salad, letys a chiwcymbr, yn rhewi’n dda.

Dail salad – tips gwych

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Dylid bwyta dail salad wedi’u paratoi erbyn y dyddiad defnyddio erbyn. Gallai’r bwyd fod yn anniogel i’w fwyta ar ôl hynny, hyd yn oed os yw wedi cael ei storio’n gywir ac yn edrych ac yn arogli’n iawn.

Hefyd, ‘oes agored’ byr sydd gan fagiau salad – hynny yw, yr amser sydd gennych i fwyta’r bwyd unwaith y bydd wedi’i agor. 

 

Mae salad yn ffordd berffaith o ddefnyddio pob math o ddarnau bach o fwydydd dros ben o’r holl brif grwpiau bwyd, yn cynnwys pysgod, cynnyrch llaeth, wyau a grawn. Mae hanfodion o’r cwpwrdd bwyd, fel cnau, hadau, ffrwythau sych neu fwydydd mewn tuniau, yn ychwanegiadau gwych i salad.

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Mae dyddiad defnyddio erbyn ar fagiau salad am resymau diogelwch, a prin iawn yw’r amser sydd gennych i ddefnyddio’r cynnwys ar ôl eu hagor. Ystyriwch gyfnewid salad mewn bag am letys cyfan, a fydd yn para’n hirach. 

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Dail salad

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae’n ffynhonnell o fitamin A, sy’n helpu i amddiffyniad naturiol eich corff yn erbyn salwch a haint (eich system imiwnedd) weithio’n iawn.  
  • Mae cynnwys dŵr uchel mewn ciwcymbrau felly maen nhw’n helpu i hydradu’r corff.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!