Skip page header and navigation

Cigoedd deli

Rhewi? Yes
Tymor Amherthnasol
Storio Mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell
Ffynhonnell protein
Salami wedi’i dorri yn ei hanner a chwpl o dafelli

Cigoedd deli, yn gyffredinol, yn cynnwys cig wedi’i brosesu sy’n cynnig opsiwn cyfleus pan fyddwch yn gweini ar gyfer gwesteion neu ar gyfer prydau bwffe ‘te pigion’ syml. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cigoedd fel chorizo, salami, prosciutto a pepperoni. Maen nhw’n cynnwys braster dirlawn felly argymhellir eu bwyta’n gynnil.

Sut i'w storio

Sut i storio cigoedd deli ffres

Dylid storio cigoedd deli mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell.

Rhewi cigoedd deli

Gellir rhewi cig deli yn ffres ac wedi’i goginio. Mae’n well defnyddio bwyd wedi’i rewi o fewn 3 – 6 mis.

Storio cig deli wedi’i goginio

Storio mewn cynhwysydd aerdyn yn yr oergell am 2 ddiwrnod, neu yn y rhewgell am 3 - 6 mis.

Cigoedd deli – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rhewi: Sleisiwch a gwahanwch gigoedd wedi’u coginio gyda phapur gwrthsaim cyn eu rhewi. Gellir wedyn eu dadrewi yn ôl y galw. 

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd/diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, dylech eu dadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr. Dylech wirio’r canllawiau ar y pecyn bob amser.

 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Gallwch ychwanegu cigoedd dros ben at pizza neu seigiau pasta hufennog, fel carbonara.

 

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn y dyddiad defnyddio erbyn a pha mor hir sydd gennych i ddefnyddio’r bwyd unwaith bydd y pecyn wedi’i agor. Os nad ydych am fwyta’r cwbl mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. 

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Cigoedd deli

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae’n cynnwys protein, sydd yn angenrheidiol ar gyfer twf a thrwsio meinwe’r corff ac mae’n arbennig o bwysig ar gyfer cyhyrau ac esgyrn iach.
  • Mae llawer o’r rhain yn uchel mewn braster dirlawn, a gall hyn gynyddu’r colesterol yn y gwaed. Gallai hyn godi eich risg o ddatblygu afiechyd y galon.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!