Skip page header and navigation

Cynllunio a pharatoi 

Cynllunio da yw’r allwedd i arbed arian ar fwyd! Mae treulio ychydig o amser yn meddwl am eich cyllideb bwyd, ac yna clustnodi amser bob wythnos i wneud ychydig o gynllunio prydau bwyd, yn ffordd wych o gadw rheolaeth ar eich siopa. Mae cynllunio prydau’n dda yn dechrau gyda defnyddio’r hyn sydd gennych eisoes – yn cynnwys bwyd dros ben – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych yn yr oergell, y rhewgell a’r cypyrddau i weld beth sydd yno’n gyntaf.

Pan fyddwch yn gwybod beth fydd y rhan fwyaf o’r prydau y byddwch yn eu bwyta bob dydd, yna byddwch yn gwybod pa gynhwysion y bydd eu hangen arnoch. Yn ogystal ag ystyried beth sydd yn y rhewgell, cofiwch feddwl am unrhyw nosweithiau y byddwch yn debygol o fod yn bwyta allan, neu’n cael tecawê fel trît, os yw eich cyllideb yn caniatáu. Ar gyfer y prydau bwyd y byddwch yn eu coginio eich hun, gallwch ddefnyddio cynllunio dognau fel dull o helpu i weithio allan yr union symiau y bydd eu hangen arnoch, ac yna llunio rhestr siopa y gallwch gadw ati wrth siopa. Gallai’r rhestr hon fod ar ffurf nodyn ar eich ffôn neu restr ar bapur – beth bynnag sy’n gweithio orau i chi. 

Cadw rheolaeth ar eich siopa 

Efallai eich bod wedi clywed y cyngor i beidio â mynd i siopa pan fyddwch chi’n llwglyd, ac mae’n gyngor doeth! Ond mae ambell i ffordd arall o gadw rheolaeth ar faint rydych chi’n ei wario, yn dechrau gyda chroesi eitemau oddi ar eich rhestr siopa i gadw eich ffocws ar brynu dim ond yr hyn sydd ar y rhestr. Os ydych chi’n defnyddio ap nodiadau ar eich ffôn, gallech roi tic yn y blychau ticio wrth ichi siopa.

Mae rhai pobl yn ei chael yn haws cadw rheolaeth drwy wneud eu siopa bwyd ar-lein, boed y siopa’n cael ei ddanfon i’ch cartref neu ei gasglu o’r siop. Mae hyn yn ei gwneud yn hawdd ichi chwilio am yr union bethau y mae eu hangen arnoch, cymharu prisiau a dod o hyd i’r opsiynau rhataf – fel nwyddau rhatach brand y siopau. Mae llai o le i demtasiwn hefyd pan na fyddwch chi’n mynd heibio rhes ar ôl rhes o losin nad ydynt ar eich rhestr drefnus, ofalus! Ond pwyllwch rhag clicio ‘archebu eto’ yn ddifeddwl – gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r fasged ac yn sicrhau eich bod yn archebu’r hyn y mae ei angen arnoch yr wythnos hon.

Os nad yw siopa ar-lein yn opsiwn, rhowch gynnig ar y cyfleuster ‘sganio wrth siopa’, os oes un ar gael yn eich archfarchnad chi. Mae hyn yn caniatáu ichi weld yn union faint rydych yn ei wario wrth ichi fynd o amgylch siop, felly byddwch yn gwybod pan fyddwch wedi cyrraedd swm eich cyllideb siopa.

Os byddwch chi yn yr archfarchnad ac yn gweld rhywbeth sy’n edrych fel bargen (3 am bris 2, prynu un a chael un am ddim ac ati), sicrhewch eich bod yn gwirio bod y fargen yn gwneud synnwyr cyn llwytho eich troli gyda phethau nad oeddent ar eich rhestr. Gall y bargeinion hyn wneud inni brynu mwy o fwyd nag y mae ei angen arnom a gallai’r bwyd hwnnw fynd i’r bin yn y pen draw – arian i lawr y draen os nad ydych yn bwriadu ei gynnwys yn un o’r prydau bwyd ar eich cynllun neu ei rewi i’w ddefnyddio rywdro eto.

Storio bwyd i wneud iddo gadw’n hirach 

Fe fuasech chi’n synnu gymaint yn hirach mae eich bwyd yn para pan gaiff ei storio’n gywir. Mae hyn yn ei gwneud yn haws ichi fwyta popeth cyn iddo fynd yn hen, sydd hefyd, wrth gwrs, yn golygu nad oes raid prynu mwy. I ddarganfod sut i storio eitemau bwyd yn gywir, ewch i chwilio ein hyb bwyd a rysetiau.

Un o’r pethau symlaf y gallwch ei wneud i gadw bwyd yn fwy ffres yn hirach yw storio’r rhan fwyaf o’ch cynnyrch ffres yn yr oergell. Heblaw am fananas, pinafalau a winwns, mae cynnyrch ffres yn para’n llawer hirach yn yr oergell gyda’r tymheredd wedi’i osod i 5 gradd Celsius neu oerach. Gallwch ddarllen tips di-rif ar gyfer bwydydd rydych chi wedi bod yn eu storio yn y lle anghywir.

Mae’n bwysig hefyd cadw golwg ar eich bwyd ffres a gwneud yn siŵr eich bod yn tynnu’r hyn sydd angen ei fwyta’n gyntaf allan. I helpu gyda hyn, defnyddiwch system cylchdroi, gyda’r bwyd mwyaf ffres yn y cefn, neu gallech neilltuo silff yn eich oergell ar gyfer bwydydd ‘bwyta fi’n gyntaf’ sy’n nesáu at eu diwrnod defnyddio erbyn. Os nad ydych am ei ddefnyddio mewn pryd, rhowch ef yn y rhewgell, a byddwch yn gallu ei fwyta rywdro eto – caiff y rhan fwyaf o fwydydd dros ben fynd i’r rhewgell hefyd! 

Gwneud i’r bwyd a brynwch fynd ymhellach

Yn olaf, gallwch arbed arian ar fwyd drwy fanteisio i’r eithaf ar yr hyn a brynwch. Anelwch i fwyta bob tamaid bwytadwy – er enghraifft, cadw’r crwyn ar foron a thatws (mae’r rhain yn llawn maeth hefyd”), a thorri dail allanol eich blodfresych i’w cynnwys yn eich blodfresych mewn saws caws. Gellir berwi’r esgyrn sydd dros ben o’r cinio Sul gyda pherlysiau ac unrhyw lysiau sydd heibio’u gorau i wneud eich stoc eich hun, a gallwch ei ddefnyddio wedyn i roi blas ar gawl neu gaserol.

Y peth gwych am arbed arian ar fwyd yw bod mantais enfawr arall yn dod yn ei sgil: mae’n atal gwastraff bwyd. Mae’n llwyddiant i’r blaned yn ogystal ag i’ch pwrs! Gallwch ddarllen mwy fyth o tips gwych ar ein tudalen arferion bwyd da.

Rhannu’r post blog hwn