Skip page header and navigation

Mae’r elusen cynaliadwyedd Hubbub yn amcangyfrif bod nifer frawychus o bwmpenni – 22 miliwn – yn cael eu gwastraffu bob blwyddyn!

Mae’n drueni, oherwydd mae pwmpenni’n flasus, a gellir bwyta pob tamaid ohonynt heblaw’r coesynnau. Yn union fel eu cefndryd, y gwrd cnau menyn, mae llawer o rysetiau blasus y gallwch eu mwynhau drwy ddefnyddio’ch pwmpenni. Dyma chwech o’n hoff rai

1. Pastai pwmpen glasurol 

Gan gymryd ysbrydoliaeth o’r ochr arall i gefnfor yr Atlantig, y saig fwyaf poblogaidd i’w gwneud o bwmpenni yw’r bastai pwmpen. Caiff y bastai gynhesol, ychydig yn sbeislyd hon ei gwneud gyda chnawd o du mewn y bwmpen, felly mae’n ffordd wych o ddefnyddio’r darnau y gwnaethoch eu tynnu allan cyn mynd ati i gerfio. Mae’n bwdin hydrefol blasus i’w fwynhau’n gynnes gyda hufen chwipio.

2. Cawl pwmpen cynhesol 

Wrth i’r hydref droi’n aeaf, a’r nosweithiau’n dod ynghynt, does dim curo ar ddysglaid o gaws cynhesol, felly adeg Calan Gaeaf, mae cawl pwmpen sbeislyd yn ddewis delfrydol. Mae’r cawl hwn yn un hynod o hyblyg, gan fod modd ei wneud gyda phwmpen neu gwrd, ynghyd ag unrhyw lysiau eraill yn yr oergell sydd angen eu defnyddio. Mae’n un hawdd i’w wneud hefyd – gallwch naill ai ddefnyddio’r cnawd o du mewn y bwmpen (heb y darnau ffeibrog a’r hadau, mae ffyrdd eraill o ddefnyddio’r rhain – gweler isod!) neu gallwch dorri’r bwmpen yn giwbiau a’u rhostio. 

Cawl pwmpen

3. Pasta pwmpen pob 

Mae pasta pob gyda chaws yn fwyd cysur o’r radd flaenaf, a gellir gwella ar unrhyw rysáit pasta pob drwy ychwanegu pwmpen neu gwrd! Beth am dorri eich pwmpen yn giwbiau bach a’u ffrio mewn sosban gyda winwns, garlleg a chorizo i ddechrau ar eich saig pasta pob? Neu gallwch roi darnau pwmpen wedi’u berwi mewn blendiwr gyda mascarpone a phiwrî tomato i greu saws pasta sidanaidd blasus.

4. Risoto pwmpen 

Beth am rysáit arall ar gyfer pryd cynhesol llawn cysur? Rhowch gynnig ar risoto pwmpen, caws glas ac afal. Mae’r rysáit flasus hon yr un mor syml ag unrhyw risoto arall, gan ddefnyddio’r darnau y gwnaethoch eu torri allan cyn cerfio’r bwmpen. Gallwch ei weini gydag ychydig o saets a llwyth o foddhad. Tip: does dim rhaid ichi gymysgu’ch risoto’n ddiddiwedd!

5. Stwffio’r bwmpen gyfan 

Mae pwmpen neu gwrd wedi’i stwffio’n gwneud saig syfrdanol ar gyfer parti swper ym mis Hydref neu Dachwedd, ynghyd â dewis delfrydol ar gyfer gwledd Calan Gaeaf. Mae nifer o rysetiau stwffin ar gael, yn cynnwys rhai gyda chig a rhai llysieuol, felly dewiswch chi. Y cwbl y mae angen ichi ei wneud yw tynnu’r darnau ffeibrog a’r hadau allan, ei llenwi gyda’ stwffin o’ch dewis chi, a rhoi’r cwbl yn y ffwrn. Cofiwch gadw ‘caead’ eich pwmpen i’w roi yn ôl ar ei phen i gwblhau’r sioe!

Paratoi pwmpen drwy dynnu’r cnawd ohoni

6. Tostio’r hadau 

Yn olaf, cadwch yr hadau! Mae hadau pwmpen wedi’u tostio’n ychwanegiad blasus a llawn maeth i bob math o seigiau. Defnyddiwch nhw fel garnais ar rai o’r rysetiau’r ydym wedi’u trafod yma, fel y cawl neu’r risoto. Gallwch eu hychwanegu at eich uwd neu rawnfwyd brecwast. Eu cymysgu mewn salad. Eu blendio mewn smwddis neu eu rhoi yn eich cymysgedd granola. Defnyddiwch nhw i wneud bara cartref yn grensiog hyfryd, naill ai wedi’u taenu ar ben y dorth, neu wedi’u cymysgu yn y toes. Gallwch eu bwyta fel byrbryd. Unrhyw beth, a dweud y gwir!

Gobeithio ein bod wedi’ch perswadio bod gormod o ffyrdd blasus o ddefnyddio eich pwmpenni i hyd yn oed ystyried eu taflu i’r bin dros Galan Gaeaf. A chofiwch, os oes gennych ormod o bwmpenni i’w defnyddio’n syth bin, gallwch eu rhewi hefyd – dim ond torri’r cnawd yn ddarnau, eu berwi’n rhannol, eu hoeri mewn dŵr rhew a’u rhoi mewn cynhwysydd aerglos yn barod i wneud rhywbeth blasus gyda nhw rywdro eto. Ni fu Calan Gaeaf erioed mor flasus!

Rhannu’r post blog hwn

Tags