Skip page header and navigation

I lawr y draen

I lawr y draen

Atal llif gwastraff diodydd

Mae’r neges am effeithiau niweidiol taflu bwyd i’r bin yn aml yn cael ei rhannu’n eang. Fodd bynnag, anaml y byddwn yn ystyried bod yr 11% o’r hyn a ystyriwn yn ‘wastraff bwyd’ sy’n wastraff hylifol yn rhan o’r broblem.

 

Rhywun yn arllwys llaeth i lawr y sinc o botel wydr

I lawr y draen: atal llif gwastraff diodydd

Mae effeithiau niweidiol taflu bwyd i’r bin yn aml yn cael eu rhannu’n eang. Fodd bynnag, anaml y byddwn yn ystyried bod yr 11% o’r hyn a ystyriwn yn ‘wastraff bwyd’ sy’n wastraff hylifol yn rhan o’r broblem.

Gan nad yw’n mynd i’r bin, rydym yn dueddol o beidio â gweld y diodydd rydym yn eu taflu fel gwastraff. Mae cyfran fawr o aelwydydd yn honni nad ydynt ‘byth’ yn taflu unrhyw ddiodydd - boed hynny’n ddiod pop, sudd, llaeth, coffi, smwddis neu hyd yn oed ddŵr potel. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer diodydd alcoholig, ac mae mwy na 80% o bobl sy’n byw ym Mhrydain yn honni nad ydyn nhw’n gwastraffu diferyn - ond nid dyna mae’r ystadegau’n ei ddangos! 

Pam ddylem fod yn poeni am laeth wedi’i dywallt. 

Mae cost carbon uchel yn perthyn i wastraff diodydd, ond dyw’r rhan fwyaf ohonom ddim yn meddwl ddwywaith am arllwys rhywbeth i lawr y sinc. 

 

800k tunnell

o ddiod sy’n cael ei waredu i garthffosydd bob blwyddyn yn y DU.

£1.4 biliwn

yw cost syfrdanol diodydd a gaiff eu gwaredu i garthffosydd yn y DU.

I lawr y draen - parhad

O ystyried faint o wastraff sydd, mae’n amlwg bod llawer mwy ohonom yn euog o wastraffu diodydd nag yr hoffem feddwl.

Hyd yn oed os nad yw’n mynd i dirlenwi, mae’n niweidiol i’r blaned. Mae’r adnoddau sy’n cael eu rhoi i dyfu, cynaeafu, cludo, a phrosesu’r ddiod honno oll yn cario cost carbon, sy’n golygu bod unrhyw wastraff yn cael effaith amgylcheddol sylweddol, yn union fel y mae gyda gwastraff a aiff i dirlenwi.

Mae’r rhan fwyaf o’r bwyd a diod a gaiff ei arllwys i lawr y draen yn yr Alban yn wastraff y gellid ei osgoi, sy’n golygu pe byddem wedi cynllunio a storio’n well gartref, ni fyddai’n rhaid iddo fod wedi mynd yn wastraff.

Byddwn yn archwilio gwastraff diodydd yn ein hymgyrch newydd ‘I lawr y draen’ – gan annog y genedl i ystyried nid yn unig y bwyd rydym yn ei daflu i’r bin, ond hefyd yr hylif (a’r arian) rydym yn ei arllwys i lawr y draen.

Rydym am annog pobl yr Alban i yfed yn gyfrifol ym mhob ystyr o’r gair er mwyn defnyddio diodydd mewn modd cynaliadwy.

I lansio’r ymgyrch, fe wnaethom feddiannu bar yn The Neighbourgood Market a gweini coctels blasus… gyda gwedd wahanol, i gwsmeriaid nad oedd ganddynt syniad beth roeddem yn ei wneud.

 

Playing this video will set non-tracking cookies from YouTube/Google

Er mwyn rhoi sylw fater pwysig – gwastraff diodydd – fe wnaethom fentro allan yng Nghaeredin i weini coctels… gyda gwedd wahanol!  

Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yr Alban