Skip page header and navigation

Pam ddylwn i roi cynnig ar hyn?

Defnyddiwch y canllaw hwn i archwilio sut bydd creu cynlluniau prydau bwyd wythnosol yn arbed amser ichi yn y pen draw, ac yn ei gwneud yn haws ichi gadw at eich cyllideb bwyd drwy sicrhau mai dim ond yr hyn mae ei angen arnoch y byddwch yn ei brynu, a bod yr holl fwyd yn eich cartref yn cael ei fwyta yn hytrach na’i daflu i’r bin.

Mae bywyd yn brysur iawn i lawer o bobl, yn ceisio cydbwyso heriau bob dydd, felly mae’n hawdd i fwyd fynd yn rhywbeth sy’n jyst digwydd, bob dydd, heb lawer o feddwl.

Rydym ni oll wedi bod yn y sefyllfa honno – trip sydyn i siopa yn seiliedig ar ryw syniadau difeddwl ynghylch yr hyn rydym awydd ei fwyta yn ystod yr wythnos, yna pan fo angen inni wneud pryd o fwyd, mae’r meddyliau hynny wedi hen fynd heibio, ac allwn ni ddim meddwl beth i’w goginio, sy’n arbennig o ddiflas pan fyddwn wedi blino. 

Yn aml, mae ein holl fwriadau da i ddefnyddio ein bwyd yn mynd yn angof, a byddwn naill ai’n gwneud rhywbeth gyda’r hyn sydd i’w weld o’n blaenau, neu byddwn yn gwario arian ar bryd tecawê – hynny oll tra bydd y bwyd hyfryd yr oeddem yn bwriadu ei fwyta, sy’n llawn daioni ac sydd eisoes wedi defnyddio adnoddau ein planed, yn mynd i’r bin … ac yn gwastraffu’r arian a gafodd ei wario yn ei brynu. Bydd dod o hyd i ffordd sydyn, syml o greu cynlluniau bwyd yn gyfaill pennaf ichi wrth drin eich bwyd.

 

Sut alla i wneud hyn?

Dyma dri cham rydym yn eu hargymell ichi eu dilyn i greu cynllun bwyd sy’n gweithio i chi: 

  • Y cam cyntaf – Dechrau arni, dod o hyd i ddull o lunio eich cynllun bwyd sy’n gweithio i chi 
  • Yr ail gam – Cynllunio prydau bwyd yn unol â’ch cyllideb bwyd
  • Y trydydd cam – Dewis prydau i’w paratoi/coginio

Y cam cyntaf

Dechrau arni – dod o hyd i fformat sy’n gweithio i chi

 

Mae’n bwysig dod o hyd i ffordd o greu cynllun bwyd sy’n gweddu i’ch ffordd o fyw, neu fel arall bydd yn her go iawn ichi ddal ati bob wythnos, a byddwch yn rhoi’r ffidil yn y to, gan golli’r holl fanteision y byddech yn elwa ohonynt gyda chynllun prydau bwyd da.

Ai sgribliwr, dewin technoleg, ynteu un sy’n amrywio yn ôl eich chwiw ydych chi?

1. Sgribliwr – neilltuwch lyfr nodiadau syml yn benodol ar gyfer cynlluniau bwyd. Gallwch wedyn gyfeirio at wythnosau blaenorol i gael ysbrydoliaeth ar gyfer prydau y gwnaethoch eu mwynhau ac a oedd yn hawdd eu gwneud, yn enwedig pan fyddwch yn brysur.

  • Gallwch hefyd ddefnyddio bwrdd gwyn ar eich oergell i’w gadw wrth law bob amser, ac yna tynnu llun ar ddiwedd pob wythnos cyn ichi lunio cynllun yr wythnos nesaf i’ch atgoffa o’r prydau a weithiodd yn dda.

2. Dewin technoleg – defnyddiwch eich ffôn symudol i greu ffolder yn eich ap nodiadau ar gyfer cynlluniau prydau bwyd wythnosol. Yna gallwch greu eich cynllun prydau bwyd mewn ‘nodyn’. Bydd cadw eich holl gynlluniau bwyd gyda’i gilydd, yn unol â’r pwynt uchod, yn eich helpu i gyfeirio’n ôl at gynlluniau wythnosau blaenorol.

  • Gallech greu nodyn fel templed a theipio dyddiau’r wythnos a’ch prydau bwyd fesul un ac yna’n syml gallwch gopïo’r nodyn hwn bob wythnos i ddechrau eich cynllun bwyd newydd, e.e. Dydd Llun – Brecwast, Cinio, Swper.

3. Amrywiol – Os yw’n well gennych chi beidio cael eich clymu i bryd penodol o fwyd ar ddiwrnod penodol, gall cynlluniau bwyd weithio i chi o hyd, gydag ychydig o hyblygrwydd wrth eu llunio. 

  • Dewiswch un o’r dulliau uchod (sgribliwr neu ddewin technoleg).
  • Yna, yn hytrach na rhoi pryd o fwyd dan bennawd diwrnod penodol, cyfrwch faint o ddyddiau fyddwch chi’n brysur, a faint o ddyddiau sydd dros ben pan fydd gennych amser i goginio rhywbeth sy’n cymryd ychydig mwy o amser, gan gofio nodi’r dyddiau y byddwch yn bwyta allan.
  • Yna ychwanegwch restr o ddewisiadau prydau bwyd ar gyfer ‘diwrnodiau prysur’ a ‘diwrnodiau eraill’.
  • Gallwch wedyn ddewis pa bryd yr hoffech ei gael ar y diwrnod. 

Tip gwych ar gyfer arbed amser ar gyfer pob dull – does dim angen ichi lunio rhestr yr wythnos gyfan i gyd ar unwaith bob tro. Unwaith y byddwch wedi llunio cynllun prydau bwyd ar gyfer un wythnos, beth am ddal i ychwanegu diwrnod arall fel ei fod yn gynllun sy’n tyfu wrth i’r wythnos fynd rhagddi? h.y. os mai dydd Llun yw hi heddiw, nodwch brydau bwyd dydd Llun nesaf ar eich cynllun tuag at ddiwedd y dydd. 

Yr ail gam

Yr ail gam 

Cynllunio prydau bwyd yn unol â’ch cyllideb bwyd 

Atgoffwch eich hunan o’ch cyllideb bwyd wythnosol a chreu cynllun sy’n eich helpu i gadw at eich cyllideb. Bydd hyn yn eich helpu i feddwl am brydau gwahanol i’w hychwanegu at eich cynllun prydau bwyd.



 

  • Bydd manteisio i’r eithaf ar y bwydydd sylfaenol yn eich cwpwrdd a’ch oergell yn eich helpu i gydbwyso eich cynllun prydau bwyd a’ch cyllideb.
  • Gallwch hefyd gymysgu a chyfnewid cynhwysion i fanteisio i’r eithaf ar y bwyd rydych chi’n ei brynu e.e. os oes angen cig ar rywbeth, does dim rhaid i chi brynu’r cig a nodir mewn ryseitiau sy’n costio ffortiwn a darganfod fod gennych becynnau ar eu hanner yn yr oergell. Gallech brynu pecyn o gyw iâr, er enghraifft, a’i ddefnyddio ar gyfer cwpl o ryseitiau yn lle hynny. Neu prynwch fag o foron a’i ddefnyddio yn lle pannas.
  • Bydd prynu bwydydd brand y siop hefyd yn eich helpu i gadw at eich cyllideb a byddwch yn creu prydau blasus a maethlon o hyd. Rhowch gynnig arnyn nhw a gweld sut aiff pethau.

Gair i gall lluniwch eich rhestr siopa ar yr un pryd, gan edrych ar ryseitiau. Bydd hyn yn ei gwneud yn hawdd ichi gael cipolwg ar y bwyd y mae ei angen arnoch a gweld lle gallwch gyfnewid ambell beth yn syml. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws ichi weld a oes angen bwyd ffres arnoch neu a allwch chi brynu bwyd rhewgell neu hanfodion bwyd ar gyfer eich cwpwrdd, e.e. bwyd tun a bwyd sych.

Y trydydd cam

Y trydydd cam

Dewis prydau i’w paratoi/coginio

Bydd hyn yn haws i’w wneud po fwyaf y byddwch yn llunio cynlluniau prydau bwyd, a daw yn ail natur ichi’n fuan iawn.  

Os gwnewch chi gymryd amser a gweithio drwy’r rhestr wirio hon, bydd yn eich helpu i brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch yn ystod eich siopa bwyd, gan arbed amser ac arian i chi. Hefyd, fel y soniwyd uchod, bydd yn gwneud amser bwyd yn llawer haws gan y bydd y prydau bwyd sy’n gweithio i chi ar gael, ar yr amser iawn, gan leihau’r amser a dreuliwch yn meddwl, a gallwch fwrw iddi i wneud eich pryd bwyd ar y diwrnod hwnnw. 

Rhestr wirio sydyn:

1.    Pwy sydd gartref a phwy sydd allan yn ystod amser prydau bwyd?

  • Gwnewch nodyn o bwy sydd gartref yn ystod yr wythnos ac ar ba ddyddiau. Bydd hyn yn eich helpu i gyfrifo faint o fwyd i’w wneud a’i brynu yn ogystal â dewis y prydau cywir ar gyfer y rhai a fydd gartref i fwyta.   

  • Allwch chi oll fwyta ar yr un adeg, ynteu a oes angen ichi greu prydau syml y gellir eu bwyta ar wahanol adegau ac efallai eu haildwymo yn y microdon? e.e. plentyn yn mynd i’r clwb pêl-droed, partner yn cyrraedd adref yn hwyr.

  • A oes angen diet arbennig ar unrhyw un, e.e. diabetig, neu a oes rhywun yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ac angen tanwydd i roi egni i’w corff?

2.    Dewisiadau prydau bwyd bydd cynllunio eich wythnos o amgylch eich arferion/calendr a defnyddio ffyrdd hawdd i’w gadw’n hyblyg a defnyddio eich bwyd.

  • Dyddiau prysur – byddwch yn realistig
  • Prydau bwyd taflu’r cyfan i’r ffwrn – i ddefnyddio eich bwyd
  • Diwrnod pryd o’r rhewgell – i roi seibiant ichi ar ddyddiau prysur iawn
  • Brecwast – efallai na fydd angen ichi gynllunio’r pryd hwn yn fanwl
  • Ffefrynnau – cadwch restr o’ch hoff brydau a’r rhai’r ydych yn eu bwyta amlaf i’ch helpu wrth feddwl am beth i’w ychwanegu at eich cynllun prydau bwyd.

Further details - Meal choices

Your meal choices will be based on your notes from above plus the following:

  • Dyddiau prysur – byddwch yn realistig

    Mae llawer o bobl yn mynd ati gyda’r bwriadau gorau ac yn cynllunio ar gyfer coginio pryd maethlon gan ddefnyddio cynhwysion ffres. Ac mae llawer ohonom yn mwynhau coginio felly byddwn yn edrych ymlaen at noson o goginio. Mae’r realiti’n dra gwahanol ac yn aml y bwyd ffres hyfryd hwn yn aml yw’r bwyd sy’n mynd i’r bin gan ein bod yn flinedig a dim egni ar ôl i goginio.

    • Os byddwch yn cynllunio prydau bwyd sy’n syml ac yn hawdd eu paratoi ar gyfer dyddiau/nosweithiau prysur, rydych yn llawer mwy tebygol o gadw at y prydau bwyd hyn.
    • Y dewis arall yw coginio sypiau o brydau bwyd dros y penwythnos neu ar adeg arall pan fydd gennych fwy o amser i goginio a’u rhewi ar gyfer eich diwrnodiau prysur.
    • Cofiwch am yr hyn sydd gennych yn eich cypyrddau hefyd – caniau tomatos, corbys a ffa defnyddiol i wneud pryd cyflym a syml mewn munudau.
  • Pryd bwyd taflu’r cyfan i’r ffwrn, un diwrnod yr wythnos

    • Cadwch un pryd bwyd ar gael i gael pryd hyblyg taflu popeth i’r ffwrn. Byddwch yn greadigol ar y diwrnod cyn siopa bwyd a defnyddio’r bwyd ffres sy’n nesáu at ddiwedd ei oes fwytadwy.
    • Defnyddiwch ein tudalen chwilio rysetiau a dewiswch yr hidlyddion neu gallwch deipio enw eich bwyd i mewn a chlicio ar ‘chwilio’ i gael eich ysbrydoli. Mae prydau un ddysgl yn gweithio’n dda yn aml, neu gyri, stiw neu gawl. Gallech hefyd wneud eich pizza eich hun.
  • Diwrnod bwyd o’r rhewgell

    Gall eich rhewgell fod yn gyfaill da pan fyddwch yn manteisio i’r eithaf arno.

    • e.e.  Bydd prynu ffrwythau a llysiau wedi’u rhewi yn rhoi mwy o ddewisiadau i chi pan fyddwch yn brysur a/neu mae eich cynlluniau’n newid. Bydd yn dal i gadw ei ansawdd ar gyfer ei ddefnyddio rywdro eto a gall weithiau fod yn rhatach na bwyd ffres.   
    • Os gwnaethoch chi goginio prydau bwyd ymlaen llaw, mae’n hawdd iawn eu haildwymo yn y microdon. Ewch i fwrw golwg ar ein tudalennau bwyd i gael tips gwych ar rewi ac aildwymo gwahanol fwydydd yn ddiogel.
  • Brecwast

    • Efallai na fydd angen ichi ysgrifennu unrhyw beth ar gyfer y pryd bwyd hwn yn eich cynllun bob dydd os ydych chi’n cael grawnfwyd neu dost i frecwast yn rheolaidd.   
    • Gwnewch nodyn o’r pethau y mae angen ichi eu defnyddio a allai fod yn dda i’w bwyta gyda grawnfwyd ar wahanol ddyddiau, e.e. llus, iogwrt.
    • Bara – cofiwch gadw eich bara wedi’i sleisio yn y rhewgell. Tynnwch dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch bob dydd a’i roi’n syth yn y tostiwr – does dim angen ei ddadrewi’n gyntaf.   
  • Ffefrynnau

    Rydym oll yn dueddol o goginio’r un llond llaw o rysetiau’r rhan fwyaf o’r amser.

    • Gwnewch nodyn yn rhywle cyfleus o’ch hoff brydau bwyd, e.e. yng nghefn eich llyfr nodiadau cynllunio prydau bwyd, mewn ‘nodyn’ yn eich ffolder cynllunio prydau bwyd ar eich ffôn neu rhowch restr ar eich bwrdd gwyn yn y gegin. Cofiwch gyfeirio at y llyfr rysetiau a rhif y dudalen neu cadwch ddolen os mai rysáit ar-lein yw hi.    
    • Gallwch wedyn hefyd herio’ch hun i ddod o hyd i rywbeth newydd  bob mis a’i ychwanegu at eich rhestr. 
    • Bydd cadw’r rhestr hwn yn gwneud cynllunio prydau bwyd yn llawer haws gan na fydd angen ichi ddal i feddwl am brydau gwahanol bob munud.

Efallai dechreuwch chi sylwi

Gydag unrhyw beth newydd, mae’n cymryd llawer o waith meddwl gan fod angen inni feddwl ychydig mwy a chyfeirio at nodiadau ar sut i wneud pethau. Bydd pethau’n dod yn haws po fwyaf y byddwch yn llunio cynlluniau prydau bwyd a buan y dewch o hyd i ffyrdd o’i wneud sy’n gweithio’n well i chi.

Ymhen amser, byddwch yn gweld fod amser bwyd yn llai o straen, gan y byddwch wedi dileu’r amser meddwl y mae ei angen i benderfynu beth i’w goginio – rhywbeth y byddwch yn sylwi mwy fyth arno yn ystod cyfnodau prysur iawn.

Byddwch hefyd yn ei chael yn haws llunio eich rhestr siopa gan y byddwch yn gwybod yn barod pa brydau bwyd y byddwch yn eu cael. Hefyd, os dechreuwch eich rhestr siopa wrth lunio eich cynllun prydau bwyd, yna byddwch yn arbed amser hefyd cyn mynd i’r siop.

Ac yn olaf, drwy fod yn ddoeth gyda’ch cynllun prydau bwyd, fe sylwch fod eich siopa bwyd yn costio llai ichi oherwydd byddwch yn prynu llai o wahanol fwydydd (drwy gyfnewid/cyfuno bwydydd) sy’n gweithio ar gyfer nifer o brydau, a byddwch yn prynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Byddwch wedi creu diwrnod i ddefnyddio bwyd yn eich oergell (eich diwrnod taflu popeth i’r ffwrn) felly bydd llai o fwyd yn mynd i’r bin hefyd.

 

Cwestiynau cyffredin