Skip page header and navigation

Dofednod (e.e. cyw iâr a thwrci)

Rhewi? Yes
Tymor Drwy gydol y flwyddyn
Storio Yng ngwaelod yr oergell
Ffynhonnell dda o fitaminau B a phrotein
Cyw iâr amrwd cyfan

Ffefryn cadarn yn llawer o gartrefi’r Deyrnas Unedig, gellir coginio cyw iâr mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol – wedi’i rostio ar gyfer cinio dydd Sul, wedi’i ffrio mewn padell, neu ar y barbeciw. Gellir coginio twrci mewn ffyrdd tebyg, ac mae ar gael drwy gydol y flwyddyn. Gellir coginio twrci mewn ffyrdd tebyg, ac er ei fod yn cael ei gysylltu’n bennaf â dathliadau tymhorol fel y Nadolig, mae ar gael drwy gydol y flwyddyn.

Sut i'w storio

Sut i storio dofednod ffres

Dylid storio’ch holl ddofednod amrwd ar waelod yr oergell mewn cynhwysydd glan, aerglos i’w atal rhag cyffwrdd pethau eraill neu ddiferu arnynt.

Rhewi dofednod

Gellir rhewi dofednod yn amrwd ac wedi’u coginio. Gallwch roi dofednod amrwd i’w rhewi tan eu dyddiad defnyddio erbyn. Yn ddelfrydol, bwytewch fwyd wedi’i rewi o fewn 3 – 6 mis. Gwiriwch y pecyn am unrhyw fanylion penodol bob amser.

Storio dofednod wedi’u coginio

Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod. Cadwch ar wahân i gig amrwd. Gellir ei storio yn y rhewgell, ac yn ddelfrydol ei fwyta mewn rhwng 3 – 6 mis.

Dofednod (e.e. cyw iâr a thwrci) – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

Sut i’w rhewi: Torrwch gyw iâr amrwd yn stribedi, taenwch nhw ar glawr a rhoi’r clawr yn y rhewgell. Unwaith y byddant wedi rhewi, gallwch bacio’r stribedi mewn bagiau ac yna’u defnyddio yn ôl faint y mae ei angen arnoch bob tro. 

Gallwch rewi dofednod amrwd hyd at y dyddiad defnyddio erbyn. Ar ôl y diwrnod defnyddio erbyn, mae’n anniogel i’w fwyta, hyd yn oed os yw wedi cael ei storio’n gywir ac yn edrych ac yn arogli’n iawn. Unwaith mae dofednod amrwd wedi’u dadrewi, dylid eu coginio o fewn 24 awr.

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd/diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, dylid ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn eu coginio/aildwymo. 

Bwyta’r bwyd cyfan

Defnyddiwch neu rhewch esgyrn a charcas y cig ar ôl ei rostio i wneud stoc ar gyfer rywdro eto. 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Cyw iâr a thwrci dros ben – amrwd

Torrwch unrhyw gyw iâr a thwrci amrwd sydd dros ben yn stribedi a’i daro mewn saig tro-ffrio. Gellir ychwanegu unrhyw gig wedi’i goginio at salad, brechdan, neu fara tortila i’w gael i ginio’r diwrnod wedyn.

Gellir coginio, bwyta neu rewi dofednod hyd at y diwrnod defnyddio erbyn. Ar ôl ei goginio, bydd yn para cwpl o ddyddiau yn yr oergell, neu gellir ei rewi drachefn. Dylid ei ddadrewi a’i fwyta o fewn 24 awr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r cyfarwyddiadau ar y pecyn ar ôl ei brynu.

 

Cyw iâr a thwrci dros ben – wedi’i goginio

Gellir ychwanegu cyw iâr a thwrci dros ben sydd wedi’i goginio at salad a brechdanau. Gellir ei ddefnyddio i wneud cawl neu rysetiau fel cyri a stiw.

 

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch becyn – neu aderyn – o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn y dyddiad defnyddio erbyn a pha mor hir sydd gennych i ddefnyddio’r bwyd unwaith bydd y pecyn wedi’i agor. Os nad ydych am fwyta’r cwbl mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. Ceisiwch brynu dofednod lleol, er mwyn lleihau eich ôl-troed (effaith ar ein planed).

Ystyriwch gyfnewid cyw iâr neu dwrci ffres am rai wedi’u rhewi. Gallwch brynu darnau, talpiau a chynnyrch wedi’i baratoi’n barod. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Dofednod (e.e. cyw iâr a thwrci)

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae’n cynnwys fitaminau B yn cynnwys B3, B6 a B12. Mae’r rhain yn dda ar gyfer creu egni a ffurfio celloedd coch y gwaed.
  • Mae’n ffynhonnell dda o brotein, sydd yn angenrheidiol ar gyfer twf a thrwsio meinwe’r corff ac mae’n arbennig o bwysig ar gyfer cyhyrau ac esgyrn iach. 
  • Mae sinc mewn dofednod hefyd, sy’n helpu gyda gwneud celloedd ac ensymau newydd, ac yn cynorthwyo gyda gwella clwyfau.

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!