Arferion bwyd da
Awgrymiadau, tips ac arweiniad defnyddiol i’ch helpu i gael y gwerth gorau bosibl o’ch bwyd, gan wneud yn siŵr ei fod yn cael ei fwyta a’i achub rhag y bin.
Arferion bwyd wythnosol gartref
Beth am roi cynnig ar gynnwys ambell i arfer bwyd syml yn eich arferion wythnosol?
Gallai hyn helpu i osgoi llawer o’r straen o siopa, cynllunio, paratoi a choginio bwyd, gan arbed amser ac arian i chi. Bydd hefyd yn sicrhau bod eich bwyd yn cael ei fwyta, nid ei daflu!
Rhowch gynnig arni, daliwch ati i wneud yr hyn y gwnaethoch ei ddysgu, yna ewch ati i roi cynnig ar rywbeth arall. Yn y pen draw, bydd yn ail natur ichi ac yn rhan reolaidd o’ch arferion wythnosol.
Cadw rheolaeth ar eich siopa
Gallwch fabwysiadu ambell arfer syml i osgoi straen a strach wrth siopa, cadw pethau’n syml a chadw at eich rhestr pan fyddwch yn y siop!
Cofiwch fynd â’ch rhestr siopa – nodiadau ar eich ffôn, neu ffotograff o restr oddi ar fwrdd gwyn eich oergell. Bydd yn cadw eich ffocws ar brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch.
Penderfynwch ar gyllideb cyn mynd i’r siop – a chadw ati. Bydd yn eich helpu i gadw llygad ar eich punnoedd a chadw rheolaeth ar eich cyllideb.
Defnyddiwch y cyfleuster ‘sganio sydyn’ yn y siop – mae’n adio cyfanswm eich bil bwyd wrth ichi siopa. A byddwch yn pacio wrth fynd hefyd, gan arbed amser.
Gwiriwch a yw’r cynigion arbennig yn gwneud synnwyr i chi – pa bryd fyddwch chi’n bwyta’r bwyd ychwanegol mewn gwirionedd? Ydy’r bwyd hwnnw yn rhan o’ch cynllun? Os nad oes ei angen arnoch, yna dydych chi ddim yn arbed arian.
Ticiwch eich rhestr wrth brynu’ch bwyd – felly byddwch yn gwybod beth sydd ar ôl i’w brynu, gan osgoi prynu pethau nad oeddech wedi bwriadu eu prynu.
Cadwch y plant yn ddiwyd – gofynnwch iddyn nhw eich helpu, os gallan nhw, neu rhowch weithgaredd syml iddyn nhw – gallech dynnu llun basged ymlaen llaw iddyn nhw ei llenwi gyda lluniau bwyd maen nhw’n ei weld yn y siop ar thema benodol, e.e. bwydydd gwyrdd.
Bwydydd brand yr archfarchnad – mae’n aml yn blasu llawn cystal â bwyd y brandiau mawr. Rhowch gynnig arni a gweld beth allwch ei gyfnewid ac arbed ambell £ ar yr un pryd, hefyd.
Cadw eich bwyd ar ôl siopa
Bydd cadw eich bwyd yn y lleoedd iawn yn ei gadw’n ffres yn hirach – mwy o amser i chi ei ddefnyddio mewn prydau bwyd blasus.
Dysgwch am y lleoedd gorau i gadw eich bwyd – e.e. dylid cadw’r rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau yn yr oergell. Bydd ein tudalennau bwyd yn eich helpu i ddysgu mwy.
Amser da i wirio tymheredd eich oergell – ewch i fwrw golwg ar dymheredd eich oergell a gwirio ei fod yn oerach na 5°C. Mae hyn yn cadw bwyd yn fwy ffres yn hirach.
Powlen ffrwythau yn yr oergell – mae ffrwythau’n mynd yn ddrwg yn gynt os cânt eu cadw ar dymheredd ystafell, felly cadwch eich powlen ffrwythau yn yr oergell. (Ni ddylid rhoi bananas a phinafalau cyfan yn yr oergell.)
Crasu nid Gwastraffu – rhowch dorth o fara yn y rhewgell ar ôl cyrraedd adref o’r siop. Gallwch dostio tafell yn syth o’r rhewgell fel byrbryd blasus. (Y 10 bwyd pennaf sy’n mynd i’r bin).
Mae’r rhewgell yn gyfaill i chi – mae’r rhan fwyaf o fwyd a gaiff ei daflu yn fwyd ffres. Gallwch rewi bwydydd na fyddwch yn eu defnyddio tan nes ymlaen yn yr wythnos wrth gyrraedd adref o’r siop.
Cadwch lygad ar eich bwyd ffres
Cadwch drefn ar eich bwyd ffres sy’n fwyaf tebygol o fynd yn hen yn gyflym i’ch helpu i gofio beth y mae angen ei ddefnyddio’n gyntaf.
Silff ‘bwyta fi’n gyntaf’ yn yr oergell – cadwch fwyd sy’n agos i ddiwedd ei oes ar flaen eich silff – neu gallech greu silff ‘bwyta fi’n gyntaf’. Bydd yn haws i’w weld ac yn well na bwyd yn mynd yn angof yng nghefn yr oergell.
Pryd ‘defnyddio’r bwyd’ wythnosol – cynlluniwch ddiwrnod ar gyfer defnyddio bwyd dros ben neu fwyd sy’n nesáu at ddiwedd ei oes a chreu pryd hyblyg, creadigol a blasus o fwyd.
Byddwch yn ddoeth gyda labeli dyddiad – dysgwch ystyr labeli dyddiad. Mae ‘Defnyddio erbyn/Use by’ yn ymwneud â diogelwch, mae ‘Ar ei orau cyn/Best before’ yn ymwneud ag ansawdd y bwyd. Gallai arbed arian ichi drwy osgoi taflu bwyd i’r bin mewn camgymeriad.
Mae’r rhewgell yn gyfaill i chi – os nad ydych am ddefnyddio eich bwyd ffres neu ddognau dros ben o’ch pryd bwyd, yna gallwch eu rhewi i’w mwynhau rywdro eto.
Parti/Barbeciw – gweinwch dim ond yr hyn y mae ei angen drwy brynu bwyd wedi’i rewi. Gallwch ei ddadmer yn y microdon pan fydd angen mwy neu os daw ymwelwyr annisgwyl. Mae’n atal taflu gormodedd o fwyd i’r bin.
Gwirio’n rheolaidd – cadwch lygad ar yr hyn sydd yn eich oergell, rhewgell a chwpwrdd drwy gynllunio sesiynau gwirio sydyn yn ystod yr wythnos.
Bwyta pob tamaid bwytadwy o’r bwyd
Fe gewch fwy o werth a maeth o’ch bwyd drwy fwyta a defnyddio’r holl ddarnau bwytadwy a lleihau faint sy’n mynd i’r bin.
Bwyta bob tamaid bwytadwy o’ch bwyd – does dim angen plicio moron a thatws, defnyddiwch ddail allanol blodfresych mewn blodfresych a saws caws. Mwy o werth am yr un pris – ac yn llawn daioni.
Gwneud eich stoc eich hun – Arbedwch grwyn llysiau a darnau bwytadwy eraill y byddech yn eu taflu fel arfer, a’u ffrwtian mewn dŵr am 20 munud. Gallwch ei rewi a’i ddefnyddio pan fydd ei angen arnoch.
Cofiwch gynllunio amser i ddadrewi eich cig yn ddiogel – mae llawer o rysetiau’n gweithio’n dda gan ddefnyddio cig sydd wedi cael ei rewi. Dylech ei ddadrewi yn yr oergell neu’r microdon cyn ei ddefnyddio.
Gweini prydau o’r maint cywir – defnyddiwch blatiau llai wrth weini bwyd, a byddant yn edrych yn llawn pan gaiff dognau o’r maint cywir eu defnyddio, yn hytrach na’u bod yn edrych ar goll ar blât mawr, sy’n creu temtasiwn i weini gormod.
Taclwch brydau heb eu gorffen gan blant – gofynnwch iddyn nhw eich helpu i baratoi a choginio prydau hawdd. Pan ofynnwyd wrth blant pam roedden nhw’n hoffi eu bwyd, roedd plant yn dweud ‘oherwydd fy mod i wedi helpu i’w wneud!’.
Adferwch y dysglau gweini – anogwch eich criw i weini dognau delfrydol iddyn nhw eu hunain. Gallant gael rhagor os byddan nhw dal yn llwglyd, a bydd hyn yn lleihau faint o fwyd heb ei fwyta ar eu plât a gaiff ei daflu i’r bin.
Cael trefn er mwyn aros ar y blaen
Bydd cynllunio syml, hyblyg a realistig yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich bwyd.
Creu cynllun prydau bwyd realistig a hyblyg – gadewch le gwag ar gyfer pryd o fwyd sy’n 'defnyddio’r bwyd sydd yn yr oergell'. Bydd cynllunio beth fyddwch yn ei fwyta yn ystod yr wythnos yn lleihau faint o fwyd a brynwch ‘jyst rhag ofn’.
Pwy sydd gartref a phwy sydd allan – cynlluniwch gan roi ystyriaeth i fywyd go iawn. Byddwch yn gwybod yn union beth y mae angen ichi ei brynu.
Lleihau straen a strach yn ystod prydau bwyd gyda’r nos – coginiwch ymlaen llaw yn ystod y penwythnos pan fydd mwy o amser gennych, a rhoi’r bwyd yn yr oergell. Gallwch ei ddadrewi pan fydd ei angen arnoch.
Dechreuwch eich rhestr siopa – yn syth ar ôl bod yn siopa. Cadwch y rhestr fel un parhaus ar eich oergell.
Cadwch eich rhestr siopa’n gyfredol – defnyddiwch eich cynllun prydau bwyd i ddiweddaru eich rhestr siopa. Yn syml, ychwanegwch eitemau pan fyddant wedi darfod.
Cynllun Parti/Barbeciw – gwnewch nodyn o bawb fydd yno, a pha amser o’r dydd (ychydig cyn/ar ôl pryd o fwyd?). Defnyddiwch y cyfrifydd dognau i brynu/gwneud yr hyn y mae ei angen arnoch.
Pwyllo cyn mynd i siopa
Cymrwch funud i ystyried beth y mae ei angen arnoch cyn ichi fynd i’r siop – gallwch elwa o’ch holl arferion bwyd wythnosol da.
Beth sydd ei angen arnoch chi mewn gwirionedd? – edrychwch yn yr oergell, y rhewgell a’r cypyrddau jyst cyn gadael i fynd i’r siop. Wedyn byddwch yn gwybod pa fwyd sydd gennych eisoes.
Beth sydd yn eich oergell? – symudwch y bwyd hŷn i flaen y silff a gwneud lle i’r bwyd y byddwch yn ei brynu. Diweddarwch eich rhestr siopa.
Pwy sydd gartref a phwy sydd allan? – gwiriwch eich cynllun prydau bwyd hyblyg gan ystyried a diweddaru’r prydau bwyd os bydd eich cynlluniau wedi newid. Yna diweddarwch eich rhestr siopa.
Ystyriwch fwyd rhewgell – opsiwn hyblyg, maethlon, gwych ar gyfer bwyd gartref. Mae’n aml iawn yn rhatach na phrynu bwyd ffres. Mae’n hawdd ei ddefnyddio ac yn cadw’n ffres yn llawer hirach.
Rhestr siopa sydyn – wnaethoch chi anghofio llunio rhestr? – gallech dynnu llun o’ch oergell i’ch atgoffa pa fwyd sydd gennych adref.
Canllawiau Sut alla i…?
Canllawiau ymarferol ar gyfer popeth y mae angen ichi ei wybod er mwyn manteisio i’r eithaf ar eich bwyd gartref. Mae yma wledd o tips gwych i sicrhau bod pob tamaid yn cael ei fwyta a’i achub rhag y bin, gan arbed amser ac arian i chi hefyd!
Ewch ati i archwilio’r pethau y gallwch eu gwneud yn hawdd gartref, fel creu cynlluniau bwyd hyblyg, a’r ffyrdd gorau o storio a rhewi eich bwyd.
Gallwch ddarganfod sut i wneud rhestrau siopa bwyd wythnosol sy’n hawdd eu paratoi ac wedi’u teilwra i chi, gan roi mwy o reolaeth ichi dros eich siopa.