Skip page header and navigation

Myffins banana a mêl

Myffins banana a mêl

Mae'r myffins hyn yn ddelfrydol ar gyfer defnyddio bananas aeddfed. Gallwch hefyd ddefnyddio ffrwythau eraill sydd angen eu defnyddio, fel afalau, llugaeron, orenau, gellyg neu hyd yn oed ffrwythau tun!

Maen nhw'n hynod flasus gyda crème fraiche wedi'i felysu, mêl neu greision banana fel topin
Gan Tony Budde
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Perfectly baked golden banana and honey muffins pictured next to a bunch of whole bananas

Cynhwysion

150g o fanana wedi'i dorri'n ddarnau bach
Mae bananas gyda smotiau brown sydd angen eu defnyddio yn ddelfrydol
250g o flawd codi
100g o siwgr mân
llwy 5ml o fêl
2 x llwy 5ml o bowdr pobi
250ml o laeth
1 wy
90ml olew

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C neu farc nwy 4.

  2. Hidlwch y blawd a’r powdr pobi i ddysgl fawr, ac ychwanegu’r siwgr.

  3. Curwch yr wy mewn dysgl fach gan ddefnyddio fforc.

  4. Arllwyswch y llaeth, olew, mêl a’r wy i’r cymysgedd blawd a’i gymysgu’n dda i ffurfio cytew llyfn.

  5. Trowch y darnau banana i mewn i’r gymysgedd.

  6. Rhowch y cymysgedd i mewn i dun myffins. Mae modd i chi bobi myffins rhagorol a’u tynnu’n ddiogel o’r tun heb ddefnyddio clawr pobi cyn belled â’ch bod yn iro’ch tun bobi yn effeithiol.

  7. Pobwch am 20 munud tan fod y myffins wedi codi ac yn frown euraidd.

  8. Tynnwch y myffins allan o’r tun yn ofalus a gadael iddynt oeri ar restl oeri.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Lle oer, sych am sawl diwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Lle oer, sych neu rewgell. Torrwch yn dafelli a‘u lapio os am eu rhewi a’u dadmer yn yr oergell.
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.