Gwnewch i’ch gwledd Eid fynd ymhellach
Eid Mubarak! Mae mis sanctaidd Ramadan yn dirwyn i ben, ac mae hynny’n golygu un peth: mae’n bryd inni ddathlu torri’r ympryd! Mae dathliadau Eid yn canolbwyntio ar fwyd, ac mae’n hawdd iawn prynu llawer mwy nag y byddwn yn ei fwyta yn y pen draw mewn gwirionedd. Dyna pam mae ein post blog heddiw yn edrych ar sut gallwch wneud i’ch gwledd Eid fynd ymhellach – fel nad oes yr un tamaid yn mynd yn wastraff, a bydd gennych brydau bwyd hawdd a blasus yn y dyddiau i ddilyn. Gadewch i’r bwyd dros ben ddisgleirio…
Mae cig rhost, fel cig eidion neu gig oen, yn wych i’w fwynhau’n oer neu gael ei aildwymo mewn amrywiaeth o ffyrdd blasus. Defnyddiwch dameidiau o gig dros ben i wneud brechdanau neu wraps, neu gallech eu gweini ar fara fflat gydag unrhyw dipiau dros ben, neu ewch am bryd Mecsicanaidd a’i rwygo’n fân mewn taco neu burrito. Mae’n wych ar gyfer ei ychwanegu at gawl hefyd (ynghyd ag unrhyw lysiau rhost sydd dros ben – gweler isod!). A pheidiwch â thaflu’r esgyrn! Gellir eu berwi i wneud stoc, yn barod i ychwanegu blas at brydau bwyd yn y dyfodol.
Gellir gwneud i seigiau cyri sy’n cynnwys llawer o saws fynd ymhellach drwy ychwanegu swmp gyda phasta os mai saws yw’r prif beth sydd ar ôl, neu gyda reis neu fara naan i’w trawsnewid yn ail bryd o fwyd. Mae tajîn neu stiw hefyd yn flasus tu hwnt wedi’i aildwymo i wneud cinio neu swper y diwrnod canlynol, a gellir rhewi’r holl seigiau hyn fesul dogn i wneud prydau bwyd hawdd yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Gellir rhewi seigiau fel Biryani a seigiau ochr fel reis, yn cynnwys sanna, eu rhewi a’u mwynhau rywdro eto – jyst dilynwch ein canllawiau ar gyfer rhewi reis i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud hynny’n ddiogel. Gallwch hefyd droi gweddillion unrhyw saig reis yn beli arancini blasus, i roi gwedd Eidalaidd ar eich bwyd Eid dros ben!
Mae llysiau rhost o unrhyw fath yn ddelfrydol ar gyfer eu blendio i wneud cawl cynhesol (gallwch gadw darnau mwy ynddo hefyd os ydych chi’n dymuno cael cawl mwy trwchus). Maen nhw’n wych hefyd i’w rhoi mewn quiche a seigiau pasta, i’w defnyddio fel topins pizza neu i’w mwynhau’n syml ar eu pennau eu hunain gyda darnau eraill o fwyd dros ben. Os nad ydych am eu bwyta i gyd, maen nhw’n rhewi’n dda hefyd – rhowch nhw mewn bag rhewgell neu gynhwysydd aerglos yn barod i’w hychwanegu at bryd arall o fwyd rywdro eto. Gallwch hefyd rewi’r cawl!
Mae roti yn flasus iawn wedi’u torri’n stribedi a’u ffrio yn barod i’w dipio mewn unrhyw ddipiau sydd gennych yn yr oergell. Mae Hash Tatws a Llysiau Diwastraff yn ddewis gwych arall os bydd gennych ormod o lysiau ar eich dwylo yn ystod yr ŵyl.
Gellir aildwymo cwscws a’i fwynhau i ginio’r diwrnod wedyn, ond bydd angen ichi fod yn ofalus gyda’ch dull o wneud hyn. Gadewch iddo oeri am awr, ond dim hirach na dwyawr, cyn ei roi yn yr oergell. I’w aildwymo, rhowch ef yn y microdon nes bydd yn chwilboeth a chymysgwch dalp o fenyn drwyddo os bydd wedi mynd braidd yn sych. Gallwch hefyd rewi seigiau cwscws mewn cynhwysydd aerglos, gan ei ddadmer a’i aildwymo yn y microdon pan fyddwch yn barod i’w fwynhau.
O ran pwdinau, mae shahi tukda yn gwneud pwdin bara menyn arbennig – y cwbl y mae angen ichi ei wneud yw trefnu’r bara mewn ychydig o rabri mewn dysgl sy’n addas i’r ffwrn a’i bobi yn y ffwrn nes bydd yn euraidd. Wedi gwneud gormod o sheer khurma? Na phoener – bydd yn cadw yn yr oergell am hyd at ddau ddiwrnod, felly gallwch ddal i’w fwynhau nes bydd y cwbl wedi gorffen!
Yn olaf, cofiwch y gallwch rewi bron unrhyw beth – yr unig eithriadau yw bwydydd dyfriog fel dail salad neu felon dŵr. Os oes gennych fwy o fwyd nag y gallwch ei ddefnyddio mewn prydau bwyd yn y dyddiau sy’n dilyn Eid, mae’n debygol y gallwch ei daro yn y rhewgell. Ewch i fwrw golwg ar ein herthygl ar fwydydd na wyddoch y gallech eu rhewi, a gallwch bori ein Rysetiau am wledd o ysbrydoliaeth coginio!