Skip page header and navigation

Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff

Croeso i’n cymuned! Rydyn ni yma i’ch helpu i archwilio ffyrdd syml o arbed bwyd, arbed arian ac achub ein planed.

Llawer o lysau ffres wedi'u gosod mewn stondin marchnad

Welcome introduction (Welsh page)

Dyma gasgliad o haciau, tips a chanllawiau syml i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich bwyd gartref. Dysgwch pam mae hi mor bwysig inni oll chwarae ein rhan i achub ein bwyd rhag y bin – gan ddiogelu ein planed brydferth ar yr un pryd.

Mae pob peth bach a wnewch, bob dydd, yn gwneud gwahaniaeth mawr. Drwy weithio gyda’n gilydd, mae’r pethau bychain yn troi’n newid mawr, fesul pob gweithred fach yr un gan y 66 miliwn o bobl sy’n byw yn y Deyrnas Unedig. Ac fe wnewch chi arbed arian ar eich bil siopa, hefyd!

60%

o wastraff bwyd yn dod o’n cartrefi yn y Deyrnas Unedig

36 miliwn

o dunelli o allyriadau nwyon tŷ gwydr gellir atal drwy achub bwyd o’r bin yn ein cartrefi yn y deurnas unedig

8 pryd bwyd

allai gael ei arbed bob wythnos o roi’r gorau i daflu ein bwyd i’r bin gartref.

Dysgwch fwy

Ansicr ble i ddechrau arni?

Rhowch gynnig ar ambell un o’r pethau syml hyn fel rhan o’ch arferion wythnosol a buan y gwelwch fod ambell i beth bach yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i’ch poced ac i’r blaned ill dau. Gallwch ddod o hyd i ffyrdd hawdd o gadw rheolaeth ar eich siopa bwyd, ei gwneud yn hawdd cofio pa fwyd sydd gennych gartref, a syniadau ar gyfer rhoi hwb ichi sicrhau bod yr holl fwyd a brynwch yn cael ei fwyta – a llawer mwy.

Eitem benodol o fwyd ar eich meddwl?

Ewch i bori drwy ein canllaw bwydydd a darganfod gwledd o ffyrdd hawdd i leihau eich gwastraff bwyd. O rysetiau blasus a syniadau syml ar gyfer prydau bwyd, i ffyrdd hawdd o ddefnyddio bwyd dros ben a sut i storio eich bwyd gartref (fe fuasech chi’n rhyfeddu faint o fwydydd y gallwch eu rhewi!), rydyn ni yma i chi bob cam o’r ffordd.
Young girl holding a bowl of fruit is standing in front of an open fridge

Hac y mis

Mae ffrwythau, heblaw bananas a phinafalau, yn cadw’n ffres yn hirach yn yr oergell. Tynnwch yr hyn rydych am ei fwyta ar y diwrnod allan, i gael y blas gorau pan fydd ar dymheredd ystafell.

Dysgwch fwy

Canllawiau ‘Sut alla i’

Tynnwch y straen allan o brynu, cynllunio, storio a defnyddio’ch bwyd: gan arbed arian, amser a’n planed werthfawr ar yr un pryd. Swnio’n hawdd ar bapur, dydi? Ond fe wyddom fod bywyd yn brysur.

Bydd ein canllawiau ‘Sut alla i…’ yn eich helpu i archwilio ffyrdd o gael y gwerth gorau allan o’r bwyd a brynwch ac yn gwneud y defnydd gorau o’r amser sydd ar gael i’w ddefnyddio i gyd – a chreu mwy o amser da i’w fwynhau hefyd

Fe ddowch o hyd i opsiynau gwahanol i roi cynnig arnynt gyda ffyrdd hawdd o daclo’r bwyd a allai gyrraedd y bin fel arall, sydd oll yn arbed amser ac arian – a gallwch addasu’r tips hyn i ffitio rownd eich bywyd cartref chi.

Y diweddaraf o flog Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff

Gwneud i’ch bwyd fynd ymhellach

Os na wnaethoch chi orffen pob tamaid o’r cinio Sul, neu efallai eich bod wedi archebu gormod o’ch hoff bryd tecawê (eto), na phoener, gallwch gadw’r bwyd blasus hwn at ddiwrnod arall.

Drwy storio, rhewi, ac aildwymo eich hoff fwyd yn gywir, gallwch wneud iddo fynd ymhellach.

Gwirio label dyddiad cig