Skip page header and navigation

Canfod atebion i’ch cwestiynau am arbed bwyd

Gobeithio eich bod wedi dod o hyd i atebion i’ch cwestiynau yn ein cymuned arbed bwyd, a’ch bod wedi dechrau rhoi rhai o’r syniadau hynny ar waith. Rhannwch yr hyn rydych yn ei wneud gyda ni drwy ein tagio ar @LoveFoodHateWasteCommunity (Facebook) a @lfhw_uk (Instagram).

Os ydych chi’n dal i chwilio am atebion, dyma ganllaw defnyddiol ar ble i edrych ar ein gwefan: 

 

A oes gennych chi eitem arbennig o fwyd dan sylw? – ewch i’n hadran ‘Bwydydd a rysetiau, teipiwch enw eitem o fwyd yno a phwyso’r botwm chwilio. Fe welwch amrywiaeth o’r tips gorau ar dudalennau’r bwydydd, fel: a allwch chi rewi’ch bwyd, a ble i’w storio? A rysetiau blasus ar gyfer defnyddio eich bwyd hyfryd. 

Ydych chi’n chwilio am bethau syml i roi cynnig arnynt yn wythnosol? – ewch i fwrw golwg ar ein ‘Arferion bwyd wythnosol’ ar ben ein tudalen Arferion bwyd da. Yno, fe welwch haciau syml i’w defnyddio fel rhan o’ch arferion bwyd bob dydd gartref. 

Hoffech chi ddysgu sut i wneud bywyd yn haws o ran bwyd? –ewch i bori ein hadran Sut alla i? ble gallwch ddarllen canllawiau fesul cam ar gyfer pethau hawdd a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’ch bywyd gartref o ran bwyd.

Ydych chi’n pendroni pam ddylech chi drafferthu achub bwyd rhag y bin? – ewch i bori ein hadran Gweithredu i ddysgu pam mae mor bwysig inni oll chwarae ein rhan a sicrhau bod pob tamaid o fwyd a brynwn yn cael ei fwyta, nid ei daflu. Os yw pob un ohonom yn gwneud y pethau bychain, mae’n troi’n newid mawr. Mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’n planed, ac i’ch poced hefyd.

Hoffech chi ddysgu mwy am Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff? – ewch i fwrw golwg ar Ein storii ddarganfod pam rydyn ni yma a pham mae ymuno â’n cymuned yn werth chweil.

A ydych chi’n chwilio am ambell i erthygl ddifyr i’w darllen? – mae yna lawer i’w ddarllen yn ein Blogiau sy’n trafod amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â bwyd.

Cwestiynau Cyffredin

Gallwch fwrw golwg hefyd ar gwestiynau mwyaf cyffredin ein cymuned isod – efallai bod yr ateb a geisiwch ar flaen eich bysedd.

  • O ble’r ydych chi’n cael eich ystadegau, ac alla i ymddiried ynddyn nhw?

    Mae Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yn rhan o WRAP, sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo byd ble nad yw newid hinsawdd yn broblem mwyach.  Rydym yn adnabyddus am ein gwaith ymchwil cadarn, a’r adroddiadau’r ydym yn eu llunio sy’n rhannu dadansoddiad o’n gwaith ymchwil. Mae Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yn arddel yr un dull trwyadl o ymdrin ag ymchwil ac rydym yn manteisio ar wybodaeth ac arbenigedd ein harbenigwyr sectorau.

  • A gaf i rannu’r ystadegau?

    Ydym, rydym yn fodlon ichi rannu’r ystadegau, a gofynnwn ichi roi cydnabyddiaeth i Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff hefyd. Argymhellwn ichi rannu’r ystadegyn cyfan ynghyd â’r disgrifiad i roi’r cyd-destun yn llawn. Bydd hyn yn sicrhau bod yr ystadegyn dan sylw’n ystyrlon ac yn driw i’w fynegiad gwreiddiol.

  • Busnes/sefydliad/athro wyf fi, sut allaf i helpu pobl i leihau eu gwastraff bwyd?

    Croesawn gefnogaeth gan fusnesau, sefydliadau, grwpiau cymunedol ac ysgolion a all ein helpu i sbarduno newid wrth leihau gwastraff bwyd yn ein cartrefi. Ewch draw i’n tudalen partneriaid ar ein gwefan WRAP. Dyma gasgliad o asedau creadigol y gallwch eu defnyddio drwy glicio ar Adnoddau ar y ddewislen ar ben y dudalen, ac yna dewis Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff o’r ddewislen Ymgyrchoedd. Gallwch hefyd gefnogi ein hymgyrch blynyddol, Wythnos Taclo Gwastraff Bwyd, a gaiff ei gynnal ym mis Mawrth. Nid ydym yn cadw cyflenwad o daflenni na deunyddiau eraill y gellid eu postio allan atoch. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn digwydd ar sianeli digidol.

  • Gaf i ddefnyddio eich logo yn fy ymgyrchoedd?

    I ddarganfod os cewch ddefnyddio logo Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, yna lawrlwythwch a darllenwch y canllawiau brand o’r adran adnoddau ar wefan WRAP. Os ydych chi’n gymwys, yna cewch ddefnyddio’r logo Balch o Gefnogi Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff sydd ar gael yn yr adran ‘Adnoddau’, gan gadw at y canllawiau brand. Defnyddiwch y ffeil gwreiddiol, os gwelwch yn dda, nid sgrin luniau neu unrhyw fersiwn arall o’r logo.

  • Myfyriwr wyf fi, ble allaf i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer gwaith cartref neu aseiniad?

    Defnyddiwch y bar chwilio ar ben y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol ichi. Neu mae’r canllaw cyflym ar ben y dudalen hon ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i’r adran a fyddai’n ddefnyddiol ichi. Pob lwc gyda’r gwaith! 

  • Rwy’n rhedeg mudiad lleol ac fe fyddem wrth ein boddau pe gallai rhywun fynychu a chynnal sesiwn i ni.

    Mae’n ardderchog clywed eich bod am helpu i sbarduno newid mewn arferion bwyd yn eich cymuned leol – diolch ichi! Tîm bach ydym ni, felly yn anffodus, nid oes gennym ddigon o bobl i allu ymweld â chymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, rydym yn hyderus y gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth y mae ei angen arnoch i gyflwyno eich cymuned i achub bwyd rhag y bin ar ein gwefan drosoch eich hunan. Fe allwch ddod o hyd i asedau creadigol hyfryd i’w defnyddio ar gyfer unrhyw beth y gallech fod am ei ddosbarthu yn yr adran adnoddau ar wefan WRAP. Gallech hefyd gynnwys dolen i wefan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff ar safle eich cymuned ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Pob lwc i chi gyda’ch sesiwn a, da chi, rhannwch yr hyn rydych yn ei wneud gyda ni drwy ein tagio ar ein sianeli cymdeithasol (dolenni cyflym yn y troedyn).

  • A ydych chi’n derbyn rysetiau newydd i’ch gwefan?

    Mae hynny’n beth hael iawn ichi ystyried ei wneud. Mae gennym bortffolio helaeth o rysetiau’n barod ar gyfer defnyddio bwydydd dros ben ac sydd hefyd yn arbed amser, felly ar hyn o bryd mae gennym ni bopeth y mae ei angen arnom, diolch yn fawr.

    Rydym weithiau’n creu rysetiau newydd gyda phartneriaid pan fyddwn yn gweithio gyda nhw ar ymgyrch penodol. Byddai’r rysetiau hyn yn ategu’r gweithredoedd allweddol sy’n cael eu hybu fel rhan o’r ymgyrch hwnnw. 

    Gallwch helpu mewn ffyrdd eraill, fodd bynnag, drwy rannu ein gwefan gyda’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned leol ac ymuno â’n cymunedau cymdeithasol hefyd (dolenni cyflym yn y troedyn). 

     

  • Rwyf wedi sylwi ar gamgymeriad ar eich gwefan, sut allaf i roi gwybod ichi amdano?

    Llenwch y ffurflen ‘cysylltwch â ni’ isod a dweud wrthym am y camgymeriad rydych wedi’i weld. Rhannwch ddolen i’r dudalen y mae’r camgymeriad yn ymddangos arni, os gwelwch yn dda. Diolch ichi am fod mor sylwgar ac am roi’r amser i gysylltu â ni, rydym yn gwerthfawrogi’n arw. 

  • Sut allaf i ddysgu beth sy’n cael mynd i’r cadi bwyd ac i fy miniau ailgylchu?

    Diolch ichi am falio am eich ailgylchu. Mae ailgylchu’n gywir yn golygu ein bod yn gallu ailgylchu mwy o bethau. Ewch draw i wefan ein chwaer ymgyrch Cymru yn ailgylchu am fwy o wybodaeth.

  • Hoffwn fod yn fwy cyfeillgar â’r blaned gyda phethau eraill gartref hefyd – unrhyw tips ar wneud hynny?

    Mae’n wych eich bod am ddysgu mwy am agweddau eraill ar fywyd gartref lle gallwch wneud gwahaniaeth. Mae llond gwlad o syniadau, tips a chyngor defnyddiol ar ein gwefan Cymru yn Ailgylchu. Pob lwc i chi ar eich taith i fod yn hyrwyddwr sy’n helpu’r blaned! 

Cysylltwch â ni

Os na allwch chi ddod o hyd i ateb yma neu ar ran arall o’n gwefan, mae croeso ichi gysylltu â ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod, neu estyn allan i ni ar y cyfryngau cymdeithasol (gallwch ddod o hyd i ddolenni cyflym ar droedyn y dudalen). 

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni

Required field labels are announced with '(required)' after their name.

CAPTCHA
We will only use your details to respond to your query. Your data will not be used for any other purposes, and will not be shared with other organisations. See our privacy policy for more details.